No themes applied yet
Brenin Moab yn Anfon am Balaam
1Aeth yr Israeliaid ymlaen, a gwersyllu yn Jericho yng ngwastadedd Moab, y tu draw i'r Iorddonen. 2Yr oedd Balac fab Sippor wedi gweld y cyfan a wnaeth Israel i'r Amoriaid, 3a daeth ofn mawr ar Moab am fod yr Israeliaid mor niferus. Yr oedd y Moabiaid yn arswydo rhagddynt, 4a dywedasant wrth henuriaid Midian, “Bydd y cynulliad hwn yn awr yn llyncu popeth o'n cwmpas, fel y mae'r ych yn llyncu glaswellt y maes.” Yr oedd Balac fab Sippor yn frenin Moab ar y pryd, 5ac anfonodd ef genhadau at Balaam fab Beor yn Pethor, sydd yng ngwlad Amaw ac ar lan yr Ewffrates, a dweud, “Edrych, daeth pobl allan o'r Aifft, a chartrefu ar hyd a lled y wlad, ac y maent bellach gyferbyn â mi. 6Tyrd, yn awr, a melltithia'r bobl hyn imi, oherwydd y maent yn gryfach na mi; yna, hwyrach y gallaf eu gorchfygu a'u gyrru allan o'r wlad, oherwydd gwn y daw bendith i'r sawl yr wyt ti'n ei fendithio, a melltith i'r sawl yr wyt ti'n ei felltithio.”
7Felly aeth henuriaid Moab a Midian at Balaam, gyda'r tâl am ddewino yn eu llaw, a rhoi iddo'r neges oddi wrth Balac. 8Dywedodd Balaam wrthynt, “Arhoswch yma heno; dychwelaf â gair atoch, yn ôl fel y bydd yr ARGLWYDD wedi llefaru wrthyf.” Felly arhosodd tywysogion Moab gyda Balaam. Yna daeth Duw at Balaam, a gofyn, 9“Pwy yw'r dynion hyn sydd gyda thi?” 10Atebodd Balaam ef, “Anfonodd Balac fab Sippor, brenin Moab, neges ataf yn dweud, 11‘Edrych, daeth pobl allan o'r Aifft, a chartrefu ar hyd a lled y wlad; tyrd, yn awr, a melltithia hwy imi; yna hwyrach y gallaf eu gorchfygu a'u gyrru allan.’ ” 12Dywedodd Duw wrth Balaam, “Paid â mynd gyda hwy, na melltithio'r bobl, oherwydd y maent wedi eu bendithio.” 13Felly cododd Balaam drannoeth, a dweud wrth dywysogion Balac, “Ewch yn ôl i'ch gwlad, oherwydd gwrthododd yr ARGLWYDD i mi ddod gyda chwi.” 14Yna cododd tywysogion Moab a mynd at Balac a dweud, “Y mae Balaam yn gwrthod dod gyda ni.”
15Anfonodd Balac dywysogion eilwaith, ac yr oedd y rhain yn fwy niferus ac anrhydeddus na'r lleill. 16Daethant at Balaam a dweud wrtho, “Dyma a ddywed Balac fab Sippor, ‘Paid â gadael i ddim dy rwystro rhag dod ataf; 17fe ddeliaf yn gwbl anrhydeddus â thi, ac fe wnaf y cyfan a ddywedi wrthyf; felly tyrd, a melltithia'r bobl hyn imi.’ ” 18Ond dywedodd Balaam wrth weision Balac, “Pe bai Balac yn rhoi imi lond ei dŷ o arian ac aur, ni allaf wneud yn groes i'r hyn y bydd yr ARGLWYDD fy Nuw yn ei orchymyn. 19Yn awr, arhoswch yma heno, er mwyn imi wybod beth arall a ddywed yr ARGLWYDD wrthyf.” 20Daeth Duw at Balaam liw nos, a dweud wrtho, “Os yw'r dynion wedi dod i'th gyrchu, yna dos gyda hwy; ond paid â gwneud dim heblaw'r hyn a orchmynnaf iti.”
Balaam a'i Asen
21Cododd Balaam drannoeth, ac ar ôl cyfrwyo ei asen, aeth gyda thywysogion Moab. 22Ond digiodd Duw wrtho am fynd, a safodd angel yr ARGLWYDD ar y ffordd i'w rwystro. Fel yr oedd yn marchogaeth ar ei asen, a'i ddau was gydag ef, 23fe welodd yr asen angel yr ARGLWYDD yn sefyll ar y ffordd, a chleddyf yn barod yn ei law; felly trodd yr asen oddi ar y ffordd, ac aeth i mewn i gae. Yna trawodd Balaam hi er mwyn ei throi yn ôl i'r ffordd. 24Safodd angel yr ARGLWYDD wedyn ar lwybr yn arwain trwy'r gwinllannoedd, a wal o boptu iddo. 25Pan welodd yr asen angel yr ARGLWYDD, gwthiodd yn erbyn y wal, gan wasgu troed Balaam rhyngddi a'r wal. 26Felly trawodd Balaam yr asen eilwaith. Yna aeth angel yr ARGLWYDD ymlaen a sefyll mewn lle mor gyfyng fel nad oedd modd troi i'r dde na'r chwith. 27Pan welodd yr asen angel yr ARGLWYDD, gorweddodd dan Balaam; ond gwylltiodd yntau, a tharo'r asen â'i ffon. 28Yna agorodd yr ARGLWYDD enau'r asen, a pheri iddi ddweud wrth Balaam, “Beth a wneuthum iti, dy fod wedi fy nharo deirgwaith?” 29Atebodd Balaam hi, “Fe wnaethost ffŵl ohonof. Pe bai gennyf gleddyf yn fy llaw, byddwn yn dy ladd.” 30Yna gofynnodd yr asen i Balaam, “Onid myfi yw'r asen yr wyt wedi ei marchogaeth trwy gydol dy oes hyd heddiw? A wneuthum y fath beth â thi erioed o'r blaen?” Atebodd yntau, “Naddo.”
31Yna agorodd yr ARGLWYDD lygaid Balaam, a phan welodd ef angel yr ARGLWYDD yn sefyll ar y ffordd, a'i gleddyf yn barod yn ei law, plygodd ei ben ac ymgrymu ar ei wyneb. 32Dywedodd angel yr ARGLWYDD wrtho, “Pam y trewaist dy asen y teirgwaith hyn? Fe ddeuthum i'th rwystro am dy fod yn rhuthro i fynd o'm blaen, 33ond gwelodd dy asen fi, a throi oddi wrthyf deirgwaith. Pe na bai wedi troi oddi wrthyf, buaswn wedi dy ladd di ac arbed dy asen.” 34Dywedodd Balaam wrth angel yr ARGLWYDD, “Yr wyf wedi pechu; ni wyddwn dy fod yn sefyll ar y ffordd i'm rhwystro. Yn awr, os yw'r hyn a wneuthum yn ddrwg yn dy olwg, fe ddychwelaf adref.” 35Ond dywedodd angel yr ARGLWYDD wrth Balaam, “Dos gyda'r dynion; ond paid â dweud dim heblaw'r hyn a orchmynnaf iti.” Felly aeth Balaam yn ei flaen gyda thywysogion Balac.
Balac yn Croesawu Balaam
36Pan glywodd Balac fod Balaam yn dod, aeth allan i'w gyfarfod yn Ar yn Moab, ar y ffin bellaf ger afon Arnon. 37Dywedodd Balac wrtho, “Onid anfonais neges atat i'th alw? Pam na ddaethost ataf? Oni allaf ddelio'n anrhydeddus â thi?” 38Atebodd Balaam ef, “Dyma fi wedi dod atat! Yn awr, a yw'r gallu gennyf i lefaru unrhyw beth ohonof fy hun? Ni allaf lefaru ond y gair a roddodd Duw yn fy ngenau.” 39Felly aeth Balaam gyda Balac, a chyrraedd Ciriath-husoth. 40Yna aberthodd Balac wartheg a defaid, a'u hanfon at Balaam a'r tywysogion oedd gydag ef. 41Trannoeth aeth Balac i gyrchu Balaam i fyny i Bamoth-baal, ac oddi yno fe ganfu fod y bobl yn cyrraedd cyn belled ag y gwelai.
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004