No themes applied yet
Neges Gyntaf Balaam
1Dywedodd Balaam wrth Balac, “Adeilada imi yma saith allor, a darpara imi saith bustach a saith hwrdd.” 2Gwnaeth Balac fel yr oedd Balaam wedi gorchymyn, ac offrymodd Balac a Balaam fustach a hwrdd ar bob allor. 3Yna dywedodd Balaam wrth Balac, “Aros di wrth dy boethoffrwm, ac af finnau draw oddi yma; hwyrach y daw'r ARGLWYDD i gyfarfod â mi, ac fe ddywedaf wrthyt beth bynnag a ddatguddia imi.” Felly aeth ymaith i fryn uchel. 4Daeth Duw i gyfarfod â Balaam, a dywedodd Balaam wrtho, “Yr wyf wedi paratoi'r saith allor ac offrymu bustach a hwrdd ar bob un.” 5Rhoddodd yr ARGLWYDD air yng ngenau Balaam, a dweud, “Dos yn ôl at Balac, a llefara hyn wrtho.” 6Pan ddychwelodd yntau, gwelodd Balac yn sefyll wrth ei boethoffrwm, a holl dywysogion Moab gydag ef. 7Yna llefarodd Balaam ei oracl a dweud,
“Daeth Balac â mi o Syria,
brenin Moab o fynyddoedd y dwyrain.
‘Tyrd,’ meddai, ‘rho felltith ar Jacob imi;
tyrd, cyhoedda wae ar Israel.’
8Sut y gallaf felltithio neb heb i Dduw ei felltithio,
neu gyhoeddi gwae ar neb heb i'r ARGLWYDD ei gyhoeddi?
9Fe'u gwelaf o ben y creigiau,
ac edrychaf arnynt o'r bryniau—
pobl yn byw mewn unigedd,
heb ystyried eu bod ymysg y cenhedloedd.
10Pwy a all gyfrif Jacob mwy na llwch23:10 Felly llawysgrifau. TM, gyfrif llwch Jacob.
neu rifo chwarter Israel?
Boed i minnau farw fel y bydd marw'r cyfiawn,
a boed fy niwedd i fel eu diwedd hwy.”
11Dywedodd Balac wrth Balaam, “Beth a wnaethost imi? Gelwais amdanat i felltithio fy ngelynion, ond y cyfan a wnaethost oedd eu bendithio.” 12Atebodd yntau, “Onid oes raid imi lefaru'r hyn y mae'r ARGLWYDD yn ei osod yn fy ngenau?”
Ail Neges Balaam
13Dywedodd Balac wrtho, “Tyrd gyda mi i le arall er mwyn iti eu gweld oddi yno; ni weli di mo'r cyfan, dim ond un cwr ohonynt, ond oddi yno gelli eu melltithio imi.” 14Felly cymerodd ef i faes Soffim ar ben Pisga, ac adeiladodd saith allor ac offrymodd fustach a hwrdd ar bob un. 15Yna dywedodd Balaam wrth Balac, “Aros di yma wrth dy boethoffrwm, ac af finnau draw i gyfarfod â'r ARGLWYDD.” 16Daeth yr ARGLWYDD i gyfarfod â Balaam, a rhoi gair yn ei enau, a dweud, “Dos yn ôl at Balac, a llefara hyn wrtho.” 17Pan ddaeth ef ato, gwelodd Balac yn sefyll wrth ei boethoffrwm, a thywysogion Moab gydag ef. Gofynnodd Balac iddo, “Beth a ddywedodd yr ARGLWYDD?” 18Yna llefarodd Balaam ei oracl a dweud:
“Cod, Balac, a chlyw:
gwrando arnaf, fab Sippor;
19nid yw Duw fel meidrolyn yn dweud celwydd,
neu fod meidrol yn edifarhau.
Oni wna yr hyn a addawodd,
a chyflawni'r hyn a ddywedodd?
20Derbyniais orchymyn i fendithio,
a phan fo ef yn bendithio, ni allaf ei atal.
21Ni welodd ddrygioni yn Jacob,
ac ni chanfu drosedd yn Israel.
Y mae'r ARGLWYDD eu Duw gyda hwy,
a bloedd y brenin yn eu plith.
22Daeth Duw â hwy allan o'r Aifft,
ac yr oedd eu nerth fel nerth ych gwyllt.
23Nid oes swyn yn erbyn Jacob,
na dewiniaeth yn erbyn Israel;
yn awr fe ddywedir am Jacob ac Israel,
‘Gwaith Duw yw hyn!’
24Dyma bobl sy'n codi fel llewes,
ac yn ymsythu fel llew;
nid yw'n gorwedd nes bwyta'r ysglyfaeth
ac yfed o waed yr hyn a larpiodd.”
25Dywedodd Balac wrth Balaam, “Paid â'u melltithio na'u bendithio mwyach.” 26Ond atebodd Balaam ef, “Oni ddywedais wrthyt fod yn rhaid imi wneud y cyfan a ddywed yr ARGLWYDD?”
Trydedd Neges Balaam
27Dywedodd Balac wrth Balaam, “Tyrd, fe af â thi i le arall; efallai y bydd Duw yn fodlon iti eu melltithio imi oddi yno.” 28Felly cymerodd Balac ef i ben Peor, sy'n edrych i lawr dros y diffeithwch23:28 Neu, Jesimon., 29a dywedodd Balaam wrtho, “Adeilada imi yma saith allor, a darpara imi saith bustach a saith hwrdd.” 30Gwnaeth Balac fel yr oedd Balaam wedi gorchymyn iddo, ac offrymodd fustach a hwrdd ar bob allor.
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004