No themes applied yet
Gosod y Lampau
1Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, 2“Dywed wrth Aaron, ‘Pan fyddwch yn gosod y lampau yn eu lle, bydd y saith ohonynt yn goleuo o'r tu blaen i'r canhwyllbren.’ ” 3Gwnaeth Aaron hyn, a gosododd y lampau i oleuo o'r tu blaen i'r canhwyllbren, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses. 4Yr oedd y canhwyllbren wedi ei wneud o aur gyr, o'i draed at ei flodau. Gwnaeth y canhwyllbren yn ôl y patrwm a ddangosodd yr ARGLWYDD i Moses.
Neilltuo'r Lefiaid i'r ARGLWYDD
5Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, 6“Cymer y Lefiaid o blith pobl Israel, a glanha hwy. 7Dyma a wnei iddynt i'w glanhau: tywallt arnynt ddŵr puredigaeth, a gwna iddynt eillio pob rhan o'u corff, a golchi eu dillad a bod yn lân. 8Yna gwna iddynt gymryd bustach ifanc gyda bwydoffrwm o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew, a chymer dithau fustach ifanc arall yn aberth dros bechod. 9Tyrd â'r Lefiaid o flaen pabell y cyfarfod, a chasgla ynghyd holl gynulliad pobl Israel. 10Wrth iti ddod â'r Lefiaid gerbron yr ARGLWYDD, bydd pobl Israel yn gosod eu dwylo arnynt, 11a bydd Aaron yn cyflwyno'r Lefiaid gerbron yr ARGLWYDD yn offrwm cyhwfan oddi wrth bobl Israel, er mwyn iddynt wasanaethu'r ARGLWYDD. 12Yna bydd y Lefiaid yn gosod eu dwylo ar ben y bustych, a byddi dithau'n offrymu un bustach yn aberth dros bechod, a'r llall yn boethoffrwm i'r ARGLWYDD, i wneud cymod dros y Lefiaid. 13Gwna i'r Lefiaid wasanaethu Aaron a'i feibion, a chyflwyna hwy yn offrwm cyhwfan i'r ARGLWYDD. 14Fel hyn y byddi'n neilltuo'r Lefiaid o blith pobl Israel i fod yn eiddo i mi.
15“Wedyn, bydd y Lefiaid yn mynd i wasanaethu ym mhabell y cyfarfod, a byddi dithau'n eu glanhau a'u cyflwyno'n offrwm cyhwfan. 16Cyflwynwyd hwy imi'n rhodd arbennig o blith pobl Israel, ac fe'u cymerais i mi fy hun yn gyfnewid am y cyntaf i ddod allan o'r groth, y rhai cyntafanedig o'r holl Israeliaid. 17Y mae pob cyntafanedig o blith yr Israeliaid, yn ddyn ac anifail, yn eiddo i mi; cysegrais hwy i mi fy hun ar y dydd y trewais bob cyntafanedig yng ngwlad yr Aifft, 18a chymerais y Lefiaid yn gyfnewid am bob cyntafanedig o blith pobl Israel. 19Rhoddais y Lefiaid yn rhodd i Aaron a'i feibion o blith pobl Israel, i wasanaethu'r Israeliaid ym mhabell y cyfarfod, ac i wneud cymod drostynt, rhag i bla ddod ar bobl Israel wrth iddynt ddod yn agos at y cysegr.”
20Gwnaeth Moses, Aaron, a holl gynulliad pobl Israel y cyfan a orchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses ynglŷn â'r Lefiaid. 21Purodd y Lefiaid eu hunain o'u pechod, a golchi eu dillad, a chyflwynodd Aaron hwy yn offrwm cyhwfan gerbron yr ARGLWYDD, a gwnaeth gymod drostynt i'w glanhau. 22Wedyn, aeth y Lefiaid i wasanaethu ym mhabell y cyfarfod, a gweini ar Aaron a'i feibion. Gwnaethpwyd i'r Lefiaid fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.
23Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, 24“Dyma'r drefn ynglŷn â'r Lefiaid: bydd y rhai sy'n bum mlwydd ar hugain a throsodd yn mynd i mewn i wneud y gwaith ym mhabell y cyfarfod; 25ond yn hanner cant oed byddant yn gorffen gweithio ac yn peidio â'u gwasanaeth. 26Cânt gynorthwyo'u brodyr i ofalu am babell y cyfarfod, ond y mae cyfnod eu gwasanaeth ar ben. Dyma a wnei ynglŷn â gorchwylion y Lefiaid.”
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004