No themes applied yet
1Am hynny, fy nghyfeillion, anwyliaid yr wyf yn hiraethu amdanynt, fy llawenydd a'm coron, safwch yn gadarn fel hyn yn yr Arglwydd, fy nghyfeillion annwyl.
Anogaethau
2Yr wyf yn annog Euodia, ac yn annog Syntyche, i fyw'n gytûn yn yr Arglwydd. 3Ac yn wir y mae gennyf gais i tithau, fy nghydymaith cywir dan yr iau: rho dy gymorth i'r gwragedd hyn a gydymdrechodd â mi o blaid yr Efengyl, ynghyd â Clement a'm cydweithwyr eraill, sydd â'u henwau yn llyfr y bywyd. 4Llawenhewch yn yr Arglwydd bob amser; fe'i dywedaf eto, llawenhewch. 5Bydded eich hynawsedd yn hysbys i bob dyn. Y mae'r Arglwydd yn agos. 6Peidiwch â phryderu am ddim, ond ym mhob peth gwneler eich deisyfiadau yn hysbys i Dduw trwy weddi ac ymbil, ynghyd â diolchgarwch. 7A bydd tangnefedd Duw, sydd goruwch pob deall, yn gwarchod dros eich calonnau a'ch meddyliau yng Nghrist Iesu.
8Bellach, gyfeillion, beth bynnag sydd yn wir, beth bynnag sydd yn anrhydeddus, beth bynnag sydd yn gyfiawn a phur, beth bynnag sydd yn hawddgar a chanmoladwy, pob rhinwedd a phopeth yn haeddu clod, myfyriwch ar y pethau hyn. 9Y pethau yr ydych wedi eu dysgu a'u derbyn, eu clywed a'u gweled, ynof fi, gwnewch y rhain; a bydd Duw'r tangnefedd gyda chwi.
Cydnabod Rhodd y Philipiaid
10Y mae'n llawenydd mawr yn yr Arglwydd i mi, fod eich gofal amdanaf yn awr o'r diwedd wedi blaguro eto. O ran hynny, yr oedd y gofal gennych; yr amser cyfaddas oedd yn eisiau. 11Nid fy mod yn dweud hyn am fod arnaf angen, oherwydd yr wyf fi wedi dysgu bod yn fodlon, beth bynnag fy amgylchiadau. 12Gwn sut i gymryd fy narostwng, a gwn hefyd sut i fod uwchben fy nigon. Ym mhob rhyw amgylchiadau, yr wyf wedi dysgu'r gyfrinach sut i ddygymod, boed â llawnder neu newyn, â helaethrwydd neu brinder. 13Y mae gennyf gryfder at bob gofyn trwy yr hwn sydd yn fy nerthu i. 14Er hynny, da y gwnaethoch wrth rannu â mi fy ngorthrymder.
15Yr ydych chwithau, Philipiaid, yn gwybod, pan euthum allan o Facedonia ar gychwyn y genhadaeth, na fu gan yr un eglwys, ar wahân i chwi yn unig, ran gyda mi mewn rhoi a derbyn; 16oherwydd yn Thesalonica hyd yn oed anfonasoch unwaith, ac eilwaith, i gyfarfod â'm hangen. 17Nid ceisio'r rhodd yr wyf, ond ceisio'r elw sy'n cynyddu i'ch cyfrif chwi. 18Yr wyf fi wedi derbyn fy nhâl yn llawn, a mwy na hynny; y mae gennyf gyflawnder ar ôl derbyn trwy law Epaffroditus yr hyn a anfonasoch chwi; y mae hynny'n arogl pêr, yn aberth cymeradwy, wrth fodd Duw. 19A bydd fy Nuw i yn cyflawni eich holl angen chwi yn ôl cyfoeth ei ogoniant yng Nghrist Iesu. 20I'n Duw a'n Tad y byddo'r gogoniant byth bythoedd! Amen.
Cyfarchion Terfynol
21Cyfarchwch bob sant yng Nghrist Iesu. Y mae'r cyfeillion sydd gyda mi yn eich cyfarch chwi. 22Y mae'r saint i gyd, ac yn arbennig y rhai sydd yng ngwasanaeth Cesar, yn eich cyfarch. 23Gras yr Arglwydd Iesu Grist fyddo gyda'ch ysbryd!
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004