No themes applied yet
1Y mae gwraig ddoeth14:1 Hebraeg, doethineb gwragedd. yn adeiladu ei thŷ,
ond y ffôl yn ei dynnu i lawr â'i dwylo'i hun.
2Y mae'r un sy'n rhodio'n gywir yn ofni'r ARGLWYDD,
ond y cyfeiliornus ei ffyrdd yn ei ddirmygu.
3Yng ngeiriau'r ffôl y mae gwialen i'w gefn,
ond y mae ymadroddion y doeth yn ei amddiffyn.
4Heb ychen y mae'r preseb yn wag,
ond trwy nerth ych ceir cynnyrch llawn.
5Nid yw tyst gonest yn dweud celwydd,
ond y mae gau dyst yn pentyrru anwireddau.
6Chwilia'r gwatwarwr am ddoethineb heb ei chael,
ond daw gwybodaeth yn rhwydd i'r deallus.
7Cilia oddi wrth yr un ffôl,
oherwydd ni chei eiriau deallus ganddo.
8Y mae doethineb y call yn peri iddo ddeall ei ffordd,
ond ffolineb y ffyliaid yn camarwain.
9Y mae ffyliaid yn gwawdio euogrwydd,
ond yr uniawn yn deall beth sy'n dderbyniol.
10Gŵyr y galon am ei chwerwder ei hun,
ac ni all dieithryn gyfranogi o'i llawenydd.
11Dinistrir tŷ'r drygionus,
ond ffynna pabell yr uniawn.
12Y mae ffordd sy'n ymddangos yn union,
ond sy'n arwain i farwolaeth yn ei diwedd.
13Hyd yn oed wrth chwerthin gall fod y galon yn ofidus,
a llawenydd yn troi'n dristwch yn y diwedd.
14Digonir y gwrthnysig gan ei ffyrdd ei hun,
a'r daionus gan ei weithredoedd yntau.
15Y mae'r gwirion yn credu pob gair,
ond y mae'r call yn ystyried pob cam.
16Y mae'r doeth yn ofalus ac yn cilio oddi wrth ddrwg,
ond y mae'r ffôl yn ddiofal a gorhyderus.
17Y mae'r diamynedd yn gweithredu'n ffôl,
a chaseir yr un dichellgar.
18Ffolineb yw rhan y rhai gwirion,
ond gwybodaeth yw coron y rhai call.
19Ymgryma'r rhai drwg o flaen pobl dda,
a'r drygionus wrth byrth y cyfiawn.
20Caseir y tlawd hyd yn oed gan ei gydnabod,
ond y mae digon o gyfeillion gan y cyfoethog.
21Y mae'r un a ddirmyga'i gymydog yn pechu,
ond dedwydd yw'r un sy'n garedig wrth yr anghenus.
22Onid yw'r rhai sy'n cynllwynio drwg yn cyfeiliorni,
ond y rhai sy'n cynllunio da yn deyrngar a ffyddlon?
23Ym mhob llafur y mae elw,
ond y mae gwag-siarad yn arwain i angen.
24Eu craffter14:24 Cymh. Groeg. Hebraeg, Eu cyfoeth. yw coron y doeth,
ond ffolineb yw addurn14:24 Tebygol. Hebraeg, ffolineb. y ffyliaid.
25Y mae tyst geirwir yn achub bywydau,
ond y mae'r twyllwr yn pentyrru celwyddau.
26Yn ofn yr ARGLWYDD y mae sicrwydd y cadarn,
a bydd yn noddfa i'w blant.
27Y mae ofn yr ARGLWYDD yn ffynnon fywiol
i arbed rhag maglau marwolaeth.
28Yn amlder pobl y mae anrhydedd brenin;
ond heb bobl, dinistrir llywodraethwr.
29Y mae digon o ddeall gan yr amyneddgar,
ond dyrchafu ffolineb a wna'r byr ei dymer.
30Meddwl iach yw iechyd y corff,
ond cancr i'r esgyrn yw cenfigen.
31Y mae'r un sy'n gorthrymu'r tlawd yn amharchu ei Greawdwr,
ond y sawl sy'n trugarhau wrth yr anghenus yn ei anrhydeddu.
32Dymchwelir y drygionus gan ei ddrygioni ei hun,
ond caiff y cyfiawn loches hyd yn oed wrth farw.
33Trig doethineb ym meddwl y deallus,
ond dirmygir hi ymysg ffyliaid.
34Y mae cyfiawnder yn dyrchafu cenedl,
ond pechod yn warth ar bobloedd.
35Rhydd brenin ffafr i was deallus,
ond digia wrth yr un a'i sarha.
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004