No themes applied yet
1Gwell yw tamaid sych, a llonyddwch gydag ef,
na thŷ yn llawn o wleddoedd ynghyd â chynnen.
2Y mae gwas deallus yn feistr ar fab gwarthus,
ac yn rhannu'r etifeddiaeth gyda'r brodyr.
3Y mae tawddlestr i arian a ffwrnais i aur,
ond yr ARGLWYDD sy'n profi calonnau.
4Y mae'r drwgweithredwr yn gwrando ar eiriau anwir,
a'r celwyddog yn rhoi sylw i dafod maleisus.
5Y mae'r un sy'n gwatwar y tlawd yn amharchu ei Greawdwr,
ac ni chaiff y sawl sy'n ymhyfrydu mewn trychineb osgoi cosb.
6Coron yr hen yw plant eu plant,
a balchder plant yw eu rhieni.
7Nid yw geiriau gwych yn gweddu i ynfytyn,
nac ychwaith eiriau celwyddog i bendefig.
8Carreg hud yw llwgrwobr i'r sawl a'i defnyddia;
fe lwydda ple bynnag y try.
9Y mae'r un sy'n cuddio tramgwydd yn ceisio cyfeillgarwch,
ond y mae'r sawl sy'n ailadrodd stori yn gwahanu cyfeillion.
10Y mae cerydd yn peri mwy o loes i'r deallus
na chan cernod i ynfytyn.
11Ar wrthryfela y mae bryd y drygionus,
ond fe anfonir cennad creulon yn ei erbyn.
12Gwell yw cyfarfod ag arthes wedi colli ei chenawon
na chyfarfod ag ynfytyn yn ei ffolineb.
13Os bydd i neb dalu drwg am dda,
nid ymedy dinistr â'i dŷ.
14Y mae dechrau cweryl fel diferiad dŵr;
ymatal di cyn i'r gynnen lifo allan.
15Cyfiawnhau'r drygionus a chondemnio'r cyfiawn—
y mae'r ddau fel ei gilydd yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD.
16Pa werth sydd i arian yn llaw ynfytyn?
Ai i brynu doethineb, ac yntau heb ddeall?
17Y mae cyfaill yn gyfaill bob amser;
ar gyfer adfyd y genir brawd.
18Un disynnwyr sy'n rhoi gwystl,
ac yn mynd yn feichiau dros ei gyfaill.
19Y mae'r un sy'n hoffi tramgwyddo yn hoffi cynnen,
a'r sawl sy'n ehangu ei borth yn gofyn am ddinistr.
20Nid yw'r meddwl cyfeiliornus yn cael daioni,
a disgyn i ddinistr a wna'r troellog ei dafod.
21Y mae'r un sy'n cenhedlu ffŵl yn wynebu gofid,
ac nid oes llawenydd i dad ynfytyn.
22Y mae calon lawen yn rhoi iechyd,
ond ysbryd isel yn sychu'r esgyrn.
23Cymer y drygionus lwgrwobr o'i fynwes
i wyrdroi llwybrau barn.
24Ceidw'r deallus ei olwg ar ddoethineb,
ond ar gyrrau'r ddaear y mae llygaid ynfytyn.
25Y mae mab ynfyd yn flinder i'w dad,
ac yn achos chwerwder i'w fam.
26Yn wir nid da cosbi'r cyfiawn,
ac nid iawn curo'r bonheddig.
27Y mae'r prin ei eiriau yn meddu gwybodaeth,
a thawel ei ysbryd yw'r deallus.
28Tra tawa'r ffŵl, fe'i hystyrir yn ddoeth,
a'r un sy'n cau ei geg yn ddeallus.
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004