No themes applied yet
1Y mae'r drygionus yn ffoi heb i neb ei erlid,
ond fe saif y cyfiawn yn gadarn fel llew.
2Pan fydd gwlad mewn gwrthryfel bydd nifer o arweinwyr,
ond trwy bobl synhwyrol a deallus y sefydlir trefn.
3Y mae un tlawd yn gorthrymu tlodion,
fel glaw yn curo cnwd heb adael cynnyrch.
4Y mae'r rhai sy'n cefnu ar y gyfraith yn canmol y drygionus,
ond y mae'r rhai sy'n cadw'r gyfraith yn ymladd yn eu herbyn.
5Nid yw pobl ddrwg yn deall beth yw cyfiawnder,
ond y mae'r rhai sy'n ceisio'r ARGLWYDD yn deall y cyfan.
6Y mae'n well bod yn dlawd, a rhodio'n gywir,
na bod yn gyfoethog ac yn droellog ei ffyrdd.
7Y mae plentyn deallus yn cadw'r gyfraith,
ond y mae'r un sy'n cyfeillachu â'r glwth yn dwyn anfri ar ei rieni.
8Y mae'r un sy'n cynyddu ei gyfoeth trwy log ac usuriaeth
yn ei gasglu i'r un sy'n garedig wrth y tlawd.
9Pwy bynnag sy'n gwrthod gwrando ar y gyfraith,
bydd ei weddi ef yn ffieidd-dra.
10Bydd yr un sy'n camarwain yr uniawn i ffordd ddrwg
yn syrthio ei hun i'r pwll a wnaeth;
ond caiff y cywir etifeddiaeth dda.
11Y mae'r cyfoethog yn ddoeth yn ei olwg ei hun,
ond y mae'r tlawd deallus yn gweld trwyddo.
12Pan yw'r cyfiawn yn llywodraethu28:12 Tebygol. Hebraeg, gorfoleddu., ceir urddas mawr;
ond pan ddaw'r drygionus i awdurdod, bydd pobl yn ymguddio.
13Ni lwydda'r un sy'n cuddio'i droseddau,
ond y mae'r un sy'n eu cyffesu ac yn cefnu arnynt yn cael trugaredd.
14Gwyn ei fyd y sawl sy'n ofni'r ARGLWYDD yn wastad;
ond y mae'r un sy'n caledu ei galon yn disgyn i ddinistr.
15Fel llew yn rhuo, neu arth yn rhuthro,
felly y mae un drygionus yn llywodraethu pobl dlawd.
16Y mae llywodraethwr heb ddeall yn pentyrru trawster,
ond y mae'r un sy'n casáu llwgrwobr yn estyn ei ddyddiau.
17Y mae un sy'n euog o dywallt gwaed
yn ffoi i gyfeiriad y pwll;
peidied neb â'i atal.
18Y mae'r un sy'n rhodio'n gywir yn ddiogel,
ond y mae'r sawl sy'n droellog ei ffyrdd yn syrthio i'r pwll28:18 Felly Syrieg. Hebraeg, i un..
19Y mae'r un sy'n trin ei dir yn cael digon o fwyd,
ond y mae'r sawl sy'n dilyn oferedd yn llawn tlodi.
20Caiff y ffyddlon lawer o fendithion,
ond ni fydd yr un sydd ar frys i ymgyfoethogi heb ei gosb.
21Nid yw'n iawn dangos ffafr,
ac eto fe drosedda rhywun am damaid o fara.
22Y mae un cybyddlyd yn rhuthro am gyfoeth;
nid yw'n ystyried y daw arno angen.
23Caiff y sawl sy'n ceryddu fwy o barch yn y diwedd
na'r un sy'n gwenieithio.
24Y mae'r un sy'n lladrata oddi ar ei dad neu ei fam,
ac yn dweud nad yw'n drosedd,
yn gymar i'r un sy'n dinistrio.
25Y mae'r trachwantus yn creu cynnen,
ond y mae'r un sy'n ymddiried yn yr ARGLWYDD yn cael llawnder.
26Y mae'r un sy'n ymddiried ynddo'i hun yn ynfyd,
ond fe waredir y sawl sy'n dilyn doethineb.
27Ni ddaw angen ar yr un sy'n rhoi i'r tlawd,
ond daw llawer o felltithion ar yr un sy'n cau ei lygaid.
28Pan ddaw'r drygionus i awdurdod, bydd pobl yn ymguddio,
ond ar ôl eu difa, bydd y cyfiawn yn amlhau.
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004