No themes applied yet
Geiriau Agur
1Geiriau Agur fab Jaceh o Massa. Dyma'i eiriau i Ithiel, i Ithiel ac Ucal:
2Yr wyf yn fwy anwar na neb;
nid oes deall dynol gennyf.
3Ni ddysgais ddoethineb,
ac nid wyf yn dirnad deall yr Un Sanctaidd.
4Pwy a esgynnodd i'r nefoedd, ac yna disgyn?
Pwy a gasglodd y gwynt yn ei ddwrn?
Pwy a rwymodd y dyfroedd mewn gwisg?
Pwy a sefydlodd holl derfynau'r ddaear?
Beth yw ei enw, neu enw ei fab, os wyt yn gwybod?
5Y mae pob un o eiriau Duw wedi ei brofi;
y mae ef yn darian i'r rhai sy'n ymddiried ynddo.
6Paid ag ychwanegu dim at ei eiriau,
rhag iddo dy geryddu, a'th gael yn gelwyddog.
7Gofynnaf am ddau beth gennyt;
paid â'u gwrthod cyn imi farw:
8symud wagedd a chelwydd ymhell oddi wrthyf;
paid â rhoi imi dlodi na chyfoeth;
portha fi â'm dogn o fwyd,
9rhag imi deimlo ar ben fy nigon, a'th wadu,
a dweud, “Pwy yw'r ARGLWYDD?”
Neu rhag imi fynd yn dlawd, a throi'n lleidr,
a gwneud drwg i enw fy Nuw.
Rhagor o Ddiarhebion
10Paid â difrïo gwas wrth ei feistr,
rhag iddo dy felltithio, a'th gael yn euog.
11Y mae rhai yn melltithio'u tad,
ac yn amharchu eu mam.
12Y mae rhai yn bur yn eu golwg eu hunain,
ond heb eu glanhau o'u haflendid.
13Y mae rhai yn ymddwyn yn falch,
a'u golygon yn uchel.
14Y mae rhai â'u dannedd fel cleddyfau,
a'u genau fel cyllyll,
yn difa'r tlawd o'r tir,
a'r anghenus o blith pobl.
15Y mae gan y gele ddwy ferch
sy'n dweud, “Dyro, dyro.”
Y mae tri pheth na ellir eu digoni,
ie, pedwar nad ydynt byth yn dweud, “Digon”:
16Sheol, a'r groth amhlantadwy,
a'r tir sydd heb ddigon o ddŵr,
a'r tân nad yw byth yn dweud, “Digon”.
17Y llygad sy'n gwatwar tad,
ac yn dirmygu ufudd-dod i fam,
fe'i tynnir allan gan gigfrain y dyffryn,
ac fe'i bwyteir gan y fwltur.
18Y mae tri pheth yn rhyfeddol imi,
pedwar na allaf eu deall:
19ffordd yr eryr yn yr awyr,
ffordd neidr ar graig,
ffordd llong ar y cefnfor,
a ffordd dyn gyda merch.
20Dyma ymddygiad y wraig odinebus:
y mae'n bwyta, yn sychu ei cheg,
ac yn dweud, “Nid wyf wedi gwneud drwg.”
21Y mae tri pheth sy'n cynhyrfu'r ddaear,
pedwar na all hi eu dioddef:
22gwas pan ddaw'n frenin,
ffŵl pan gaiff ormod o fwyd,
23dynes atgas yn cael gŵr,
a morwyn yn disodli ei meistres.
24Y mae pedwar peth ar y ddaear sy'n fach,
ond yn eithriadol ddoeth:
25y morgrug, creaduriaid sydd heb gryfder,
ond sy'n casglu eu bwyd yn yr haf;
26y cwningod, creaduriaid sydd heb nerth,
ond sy'n codi eu tai yn y creigiau;
27y locustiaid, nad oes ganddynt frenin,
ond sydd i gyd yn mynd allan yn rhengoedd;
28a'r fadfall, y gelli ei dal yn dy law,
ond sydd i'w chael ym mhalas brenhinoedd.
29Y mae tri pheth sy'n hardd eu cerddediad,
pedwar sy'n rhodio'n urddasol:
30llew, gwron ymhlith yr anifeiliaid,
nad yw'n cilio oddi wrth yr un ohonynt;
31ceiliog yn torsythu; bwch gafr;
a brenin yn arwain ei bobl.
32Os bu iti ymddwyn yn ffôl trwy ymffrostio,
neu gynllwynio drwg, rho dy law ar dy enau.
33Oherwydd o gorddi llaeth ceir ymenyn,
o wasgu'r trwyn ceir gwaed,
ac o fegino llid ceir cynnen.
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004