No themes applied yet
Mawl i Ddoethineb
1Onid yw doethineb yn galw,
a deall yn codi ei lais?
2Y mae'n sefyll ar y mannau uchel ar fin y ffordd,
ac yn ymyl y croesffyrdd;
3Y mae'n galw gerllaw'r pyrth sy'n arwain i'r dref,
wrth y fynedfa at y pyrth:
4“Arnoch chwi, bobl, yr wyf yn galw,
ac atoch chwi, ddynolryw, y daw fy llais.
5Chwi, y rhai gwirion, dysgwch graffter,
a chwithau, ffyliaid, ceisiwch synnwyr.
6Gwrandewch, oherwydd traethaf bethau gwerthfawr,
a daw geiriau gonest o'm genau.
7Traetha fy nhafod y gwir,
ac y mae anwiredd yn ffiaidd gan fy ngenau.
8Y mae fy holl eiriau yn gywir;
nid yw'r un ohonynt yn ŵyr na thraws.
9Y mae'r cyfan yn eglur i'r deallus,
ac yn uniawn i'r un sy'n ceisio gwybodaeth.
10Derbyniwch fy nghyfarwyddyd yn hytrach nag arian,
oherwydd gwell yw nag aur.
11Yn wir, y mae doethineb yn well na gemau,
ac ni all yr holl bethau dymunol gystadlu â hi.
12Yr wyf fi, doethineb, yn byw gyda chraffter,
ac wedi cael gwybodaeth a synnwyr.
13Ofn yr ARGLWYDD yw casáu drygioni;
yr wyf yn ffieiddio balchder ac uchelgais,
ffordd drygioni a geiriau traws.
14Fy eiddo i yw cyngor a chraffter,
a chennyf fi y mae deall a gallu.
15Trwof fi y teyrnasa brenhinoedd,
ac y llunia llywodraethwyr ddeddfau cyfiawn.
16Trwof fi y caiff tywysogion awdurdod,
ac y barna penaethiaid yn gyfiawn.
17Yr wyf yn caru pob un sy'n fy ngharu i,
ac y mae'r rhai sy'n fy ngheisio'n ddyfal yn fy nghael.
18Gennyf fi y mae cyfoeth ac anrhydedd,
digonedd o olud a chyfiawnder.
19Y mae fy ffrwythau'n well nag aur, aur coeth,
a'm cynnyrch yn well nag arian pur.
20Rhodiaf ar hyd ffordd cyfiawnder,
ar ganol llwybrau barn,
21a rhoddaf gyfoeth i'r rhai a'm câr,
a llenwi eu trysordai.
22“Lluniodd yr ARGLWYDD fi ar ddechrau ei waith,
yn gyntaf o'i weithredoedd gynt.
23Fe'm sefydlwyd yn y gorffennol pell,
yn y dechrau, cyn bod daear.
24Ganwyd fi cyn bod dyfnderau,
cyn bod ffynhonnau yn llawn dŵr.
25Cyn gosod sylfeini'r mynyddoedd,
cyn bod y bryniau, y ganwyd fi,
26cyn iddo greu tir a meysydd,
ac o flaen pridd y ddaear.
27Yr oeddwn i yno pan oedd yn gosod y nefoedd yn ei lle
ac yn rhoi cylch dros y dyfnder,
28pan oedd yn cadarnhau'r cymylau uwchben
ac yn sicrhau ffynhonnau'r dyfnder,
29pan oedd yn gosod terfyn i'r môr,
rhag i'r dyfroedd anufuddhau i'w air,
a phan oedd yn cynllunio sylfeini'r ddaear.
30Yr oeddwn i wrth ei ochr yn gyson,
yn hyfrydwch iddo beunydd,
yn ddifyrrwch o'i flaen yn wastad,
31yn ymddifyrru yn y byd a greodd,
ac yn ymhyfrydu mewn pobl.
32“Yn awr, blant, gwrandewch arnaf;
gwyn eu byd y rhai sy'n cadw fy ffyrdd.
33Gwrandewch ar gyfarwyddyd, a byddwch ddoeth;
peidiwch â'i anwybyddu.
34Gwyn ei fyd y sawl sy'n gwrando arnaf,
sy'n disgwyl yn wastad wrth fy nrws,
ac yn gwylio wrth fynedfa fy nhŷ.
35Yn wir, y mae'r un sy'n fy nghael i yn cael bywyd,
ac yn ennill ffafr yr ARGLWYDD;
36ond y mae'r un sy'n methu fy nghael yn ei ddinistrio'i hun,
a phawb sy'n fy nghasáu yn caru marwolaeth.”
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004