No themes applied yet
I Ddafydd.
1Fy enaid, bendithia'r ARGLWYDD,
a'r cyfan sydd ynof ei enw sanctaidd.
2Fy enaid, bendithia'r ARGLWYDD,
a phaid ag anghofio'i holl ddoniau:
3ef sy'n maddau fy holl gamweddau,
yn iacháu fy holl afiechyd;
4ef sy'n gwaredu fy mywyd o'r pwll,
ac yn fy nghoroni â chariad a thrugaredd;
5ef sy'n fy nigoni â daioni dros fy holl ddyddiau
i adnewyddu fy ieuenctid fel eryr.
6Y mae'r ARGLWYDD yn gweithredu cyfiawnder
a barn i'r holl rai gorthrymedig.
7Dysgodd ei ffyrdd i Moses,
a'i weithredoedd i blant Israel.
8Trugarog a graslon yw'r ARGLWYDD,
araf i ddigio a llawn ffyddlondeb.
9Nid yw'n ceryddu'n ddiddiwedd,
nac yn meithrin ei ddicter am byth.
10Ni wnaeth â ni yn ôl ein pechodau,
ac ni thalodd i ni yn ôl ein camweddau.
11Oherwydd fel y mae'r nefoedd uwchben y ddaear,
y mae ei gariad ef dros y rhai sy'n ei ofni;
12cyn belled ag y mae'r dwyrain o'r gorllewin
y pellhaodd ein pechodau oddi wrthym.
13Fel y mae tad yn tosturio wrth ei blant,
felly y tosturia'r ARGLWYDD wrth y rhai sy'n ei ofni.
14Oherwydd y mae ef yn gwybod ein deunydd,
yn cofio mai llwch ydym.
15Y mae dyddiau dyn fel glaswelltyn;
y mae'n blodeuo fel blodeuyn y maes—
16pan â'r gwynt drosto fe ddiflanna,
ac nid yw ei le'n ei adnabod mwyach.
17Ond y mae ffyddlondeb yr ARGLWYDD o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb
ar y rhai sy'n ei ofni,
a'i gyfiawnder i blant eu plant,
18i'r rhai sy'n cadw ei gyfamod,
yn cofio'i orchmynion ac yn ufuddhau.
19Gosododd yr ARGLWYDD ei orsedd yn y nefoedd,
ac y mae ei frenhiniaeth ef yn rheoli pob peth.
20Bendithiwch yr ARGLWYDD, ei angylion,
y rhai cedyrn sy'n gwneud ei air,
ac yn ufuddhau i'w eiriau.
21Bendithiwch yr ARGLWYDD, ei holl luoedd,
ei weision sy'n gwneud ei ewyllys.
22Bendithiwch yr ARGLWYDD, ei holl weithredoedd,
ym mhob man o dan ei lywodraeth.
Fy enaid, bendithia'r ARGLWYDD.
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004