No themes applied yet
1Fy enaid, bendithia'r ARGLWYDD.
O ARGLWYDD fy Nuw, mawr iawn wyt ti;
yr wyt wedi dy wisgo ag ysblander ac anrhydedd,
2a'th orchuddio â goleuni fel mantell.
Yr wyt yn taenu'r nefoedd fel pabell,
3yn gosod tulathau dy balas ar y dyfroedd,
yn cymryd y cymylau'n gerbyd,
yn marchogaeth ar adenydd y gwynt,
4yn gwneud y gwyntoedd yn negeswyr,
a'r fflamau tân yn weision.
5Gosodaist y ddaear ar ei sylfeini,
fel na fydd yn symud byth bythoedd;
6gwnaethost i'r dyfnder ei gorchuddio fel dilledyn,
ac y mae dyfroedd yn sefyll goruwch y mynyddoedd.
7Gan dy gerydd di fe ffoesant,
gan sŵn dy daranau ciliasant draw,
8a chodi dros fynyddoedd a disgyn i'r dyffrynnoedd,
i'r lle a bennaist ti iddynt;
9rhoist iddynt derfyn nad ydynt i'w groesi,
rhag iddynt ddychwelyd a gorchuddio'r ddaear.
10Yr wyt yn gwneud i ffynhonnau darddu mewn hafnau,
yn gwneud iddynt lifo rhwng y mynyddoedd;
11rhônt ddiod i holl fwystfilod y maes,
a chaiff asynnod gwyllt eu disychedu;
12y mae adar y nefoedd yn nythu yn eu hymyl,
ac yn trydar ymysg y canghennau.
13Yr wyt yn dyfrhau'r mynyddoedd o'th balas;
digonir y ddaear trwy dy ddarpariaeth.
14Yr wyt yn gwneud i'r gwellt dyfu i'r gwartheg,
a phlanhigion at wasanaeth pobl,
i ddwyn allan fwyd o'r ddaear,
15a gwin i lonni calonnau pobl,
olew i ddisgleirio'u hwynebau,
a bara i gynnal eu calonnau.
16Digonir y coedydd cryfion104:16 Neu, coedydd yr ARGLWYDD.,
y cedrwydd Lebanon a blannwyd,
17lle mae'r adar yn nythu,
a'r ciconia yn cartrefu yn eu brigau.
18Y mae'r mynyddoedd uchel ar gyfer geifr,
ac y mae'r clogwyni yn lloches i'r brochod.
19Yr wyt yn gwneud i'r lleuad nodi'r tymhorau,
ac i'r haul wybod pryd i fachlud.
20Trefnaist dywyllwch, fel bod nos,
a holl anifeiliaid y goedwig yn ymlusgo allan,
21gyda'r llewod ifanc yn rhuo am ysglyfaeth,
ac yn ceisio eu bwyd oddi wrth Dduw.
22Ond pan gyfyd yr haul, y maent yn mynd ymaith,
ac yn gorffwyso yn eu ffeuau.
23A daw pobl allan i weithio,
ac at eu llafur hyd yr hwyrnos.
24Mor niferus yw dy weithredoedd, O ARGLWYDD!
Gwnaethost y cyfan mewn doethineb;
y mae'r ddaear yn llawn o'th greaduriaid.
25Dyma'r môr mawr a llydan,
gydag ymlusgiaid dirifedi
a chreaduriaid bach a mawr.
26Arno y mae'r llongau yn tramwyo,
a Lefiathan, a greaist i chwarae ynddo.
27Y mae'r cyfan ohonynt yn dibynnu arnat ti
i roi iddynt eu bwyd yn ei bryd.
28Pan roddi iddynt, y maent yn ei gasglu ynghyd;
pan agori dy law, cânt eu diwallu'n llwyr.
29Ond pan guddi dy wyneb, fe'u drysir;
pan gymeri eu hanadl, fe ddarfyddant,
a dychwelyd i'r llwch.
30Pan anfoni dy anadl, cânt eu creu,
ac yr wyt yn adnewyddu wyneb y ddaear.
31Bydded gogoniant yr ARGLWYDD dros byth,
a bydded iddo lawenhau yn ei weithredoedd.
32Pan yw'n edrych ar y ddaear, y mae'n crynu;
pan yw'n cyffwrdd â'r mynyddoedd, y maent yn mygu.
33Canaf i'r ARGLWYDD tra byddaf byw,
rhof foliant i Dduw tra byddaf.
34Bydded fy myfyrdod yn gymeradwy ganddo;
yr wyf yn llawenhau yn yr ARGLWYDD.
35Bydded i'r pechaduriaid ddarfod o'r tir,
ac na fydded y drygionus mwyach.
Fy enaid, bendithia'r ARGLWYDD.
Molwch yr ARGLWYDD.
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004