No themes applied yet
LLYFR 5
1Diolchwch i'r ARGLWYDD, oherwydd da yw,
ac y mae ei gariad hyd byth.
2Fel yna dyweded y rhai a waredwyd gan yr ARGLWYDD,
y rhai a waredodd ef o law'r gelyn,
3a'u cynnull ynghyd o'r gwledydd,
o'r dwyrain a'r gorllewin,
o'r gogledd a'r de.
4Aeth rhai ar goll mewn anialdir a diffeithwch,
heb gael ffordd at ddinas i fyw ynddi;
5yr oeddent yn newynog ac yn sychedig,
ac yr oedd eu nerth yn pallu.
6Yna gwaeddasant ar yr ARGLWYDD yn eu cyfyngder,
a gwaredodd hwy o'u hadfyd;
7arweiniodd hwy ar hyd ffordd union
i fynd i ddinas i fyw ynddi.
8Bydded iddynt ddiolch i'r ARGLWYDD am ei gariad,
ac am ei ryfeddodau i ddynolryw.
9Oherwydd rhoes eu digon i'r sychedig,
a llenwi'r newynog â phethau daionus.
10Yr oedd rhai yn eistedd mewn tywyllwch dudew,
yn gaethion mewn gofid a haearn,
11am iddynt wrthryfela yn erbyn geiriau Duw,
a dirmygu cyngor y Goruchaf.
12Llethwyd eu calon gan flinder;
syrthiasant heb neb i'w hachub.
13Yna gwaeddasant ar yr ARGLWYDD yn eu cyfyngder,
a gwaredodd ef hwy o'u hadfyd;
14daeth â hwy allan o'r tywyllwch dudew,
a drylliodd eu gefynnau.
15Bydded iddynt ddiolch i'r ARGLWYDD am ei gariad,
ac am ei ryfeddodau i ddynolryw.
16Oherwydd torrodd byrth pres,
a drylliodd farrau heyrn.
17Yr oedd rhai yn ynfyd; oherwydd eu ffyrdd pechadurus
a'u camwedd fe'u cystuddiwyd;
18aethant i gasáu pob math o fwyd,
a daethant yn agos at byrth angau.
19Yna gwaeddasant ar yr ARGLWYDD yn eu cyfyngder,
a gwaredodd ef hwy o'u hadfyd;
20anfonodd ei air ac iachaodd hwy,
a gwaredodd hwy o ddistryw.
21Bydded iddynt ddiolch i'r ARGLWYDD am ei gariad,
ac am ei ryfeddodau i ddynolryw.
22Bydded iddynt ddod ag offrymau diolch,
a dweud am ei weithredoedd mewn gorfoledd.
23Aeth rhai i'r môr mewn llongau,
a gwneud eu gorchwylion ar ddyfroedd mawr;
24gwelsant hwy weithredoedd yr ARGLWYDD,
a'i ryfeddodau yn y dyfnder.
25Pan lefarai ef, deuai gwynt stormus,
a pheri i'r tonnau godi'n uchel.
26Cawsant eu codi i'r nefoedd a'u bwrw i'r dyfnder,
a phallodd eu dewrder yn y trybini;
27yr oeddent yn troi yn simsan fel meddwyn,
ac wedi colli eu holl fedr.
28Yna gwaeddasant ar yr ARGLWYDD yn eu cyfyngder,
a gwaredodd ef hwy o'u hadfyd;
29gwnaeth i'r storm dawelu,
ac aeth y tonnau'n ddistaw;
30yr oeddent yn llawen am iddi lonyddu,
ac arweiniodd hwy i'r hafan a ddymunent.
31Bydded iddynt ddiolch i'r ARGLWYDD am ei gariad,
ac am ei ryfeddodau i ddynolryw.
32Bydded iddynt ei ddyrchafu yng nghynulleidfa'r bobl,
a'i foliannu yng nghyngor yr henuriaid.
33Y mae ef yn troi afonydd yn ddiffeithwch,
a ffynhonnau dyfroedd yn sychdir;
34y mae ef yn troi tir ffrwythlon yn grastir,
oherwydd drygioni'r rhai sy'n byw yno.
35Y mae ef yn troi diffeithwch yn llynnau dŵr,
a thir sych yn ffynhonnau.
36Gwna i'r newynog fyw yno,
a sefydlant ddinas i fyw ynddi;
37heuant feysydd a phlannu gwinwydd,
a chânt gnydau toreithiog.
38Bydd ef yn eu bendithio ac yn eu hamlhau,
ac ni fydd yn gadael i'w gwartheg leihau.
39Pan fyddant yn lleihau ac wedi eu darostwng
trwy orthrwm, helbul a gofid,
40bydd ef yn tywallt gwarth ar dywysogion,
ac yn peri iddynt grwydro trwy'r anialwch diarffordd.
41Ond bydd yn codi'r tlawd o'i ofid,
ac yn gwneud ei deulu fel praidd.
42Bydd yr uniawn yn gweld ac yn llawenhau,
ond pob un drygionus yn atal ei dafod.
43Pwy bynnag sydd ddoeth, rhoed sylw i'r pethau hyn;
bydded iddynt ystyried ffyddlondeb yr ARGLWYDD.
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004