No themes applied yet
1Gwyn eu byd y rhai perffaith eu ffordd,
y rhai sy'n rhodio yng nghyfraith yr ARGLWYDD.
2Gwyn eu byd y rhai sy'n cadw ei farnedigaethau,
ac yn ei geisio ef â'u holl galon,
3y rhai nad ydynt wedi gwneud unrhyw ddrwg,
ond sy'n rhodio yn ei ffyrdd ef.
4Yr wyt ti wedi gwneud dy ofynion yn ddeddfau
i'w cadw'n ddyfal.
5O na allwn gerdded yn unionsyth
a chadw dy ddeddfau!
6Yna ni'm cywilyddir os cadwaf fy llygaid
ar dy holl orchmynion.
7Fe'th glodforaf di â chalon gywir
wrth imi ddysgu am dy farnau cyfiawn.
8Fe gadwaf dy ddeddfau;
paid â'm gadael yn llwyr.
9Sut y ceidw'r ifanc ei lwybr yn lân?
Trwy gadw dy air di.
10Fe'th geisiais di â'm holl galon;
paid â gadael imi wyro oddi wrth dy orchmynion.
11Trysorais dy eiriau yn fy nghalon
rhag imi bechu yn dy erbyn.
12Bendigedig wyt ti, O ARGLWYDD;
dysg i mi dy ddeddfau.
13Bûm yn ailadrodd â'm gwefusau
holl farnau dy enau.
14Ar hyd ffordd dy farnedigaethau cefais lawenydd
sydd uwchlaw pob cyfoeth.
15Byddaf yn myfyrio ar dy ofynion di,
ac yn cadw dy lwybrau o flaen fy llygaid.
16Byddaf yn ymhyfrydu yn dy ddeddfau,
ac nid anghofiaf dy air.
17Bydd dda wrth dy was; gad imi fyw,
ac fe gadwaf dy air.
18Agor fy llygaid imi weld
rhyfeddodau dy gyfraith.
19Ymdeithydd wyf fi ar y ddaear;
paid â chuddio dy orchmynion oddi wrthyf.
20Y mae fy nghalon yn dihoeni o hiraeth
am dy farnau di bob amser.
21Fe geryddaist y trahaus, y rhai melltigedig
sy'n gwyro oddi wrth dy orchmynion.
22Tyn ymaith oddi wrthyf eu gwaradwydd a'u sarhad,
oherwydd bûm ufudd i'th farnedigaethau.
23Er i dywysogion eistedd mewn cynllwyn yn f'erbyn,
bydd dy was yn myfyrio ar dy ddeddfau;
24y mae dy farnedigaethau'n hyfrydwch i mi,
a hefyd yn gynghorwyr imi.
25Y mae fy enaid yn glynu wrth y llwch;
adfywia fi yn ôl dy air.
26Adroddais am fy hynt ac atebaist fi;
dysg i mi dy ddeddfau.
27Gwna imi ddeall ffordd dy ofynion,
ac fe fyfyriaf ar dy ryfeddodau.
28Y mae fy enaid yn anniddig gan ofid,
cryfha fi yn ôl dy air.
29Gosod ffordd twyll ymhell oddi wrthyf,
a rho imi ras dy gyfraith.
30Dewisais ffordd ffyddlondeb,
a gosod dy farnau o'm blaen.
31Glynais wrth dy farnedigaethau.
O ARGLWYDD, paid â'm cywilyddio.
32Dilynaf ffordd dy orchmynion,
oherwydd ehangaist fy neall.
33O ARGLWYDD, dysg fi yn ffordd dy ddeddfau,
ac o'i chadw fe gaf wobr.
34Rho imi ddeall, er mwyn imi ufuddhau i'th gyfraith
a'i chadw â'm holl galon;
35gwna imi gerdded yn llwybr dy orchmynion,
oherwydd yr wyf yn ymhyfrydu ynddo.
36Tro fy nghalon at dy farnedigaethau
yn hytrach nag at elw;
37tro ymaith fy llygaid rhag gweld gwagedd;
adfywia fi â'th air119:37 Felly llawysgrifau a Targwm. TM, â'th ffyrdd..
38Cyflawna i'th was yr addewid
a roddaist i'r rhai sy'n dy ofni.
39Tro ymaith y gwaradwydd yr wyf yn ei ofni,
oherwydd y mae dy farnau'n dda.
40Yr wyf yn dyheu am dy ofynion;
adfywia fi â'th gyfiawnder.
41Pâr i'th gariad ddod ataf, O ARGLWYDD,
a'th iachawdwriaeth yn ôl dy addewid;
42yna rhoddaf ateb i'r rhai sy'n fy ngwatwar,
oherwydd ymddiriedais yn dy air.
43Paid â chymryd gair y gwirionedd o'm genau,
oherwydd fe obeithiais yn dy farnau.
44Cadwaf dy gyfraith bob amser,
hyd byth bythoedd.
45Rhodiaf oddi amgylch yn rhydd,
oherwydd ceisiais dy ofynion.
46Siaradaf am dy farnedigaethau gerbron brenhinoedd,
ac ni fydd arnaf gywilydd;
47ymhyfrydaf yn dy orchmynion
am fy mod yn eu caru.
48Parchaf dy orchmynion
am fy mod yn eu caru,
a myfyriaf ar dy ddeddfau.
49Cofia dy air i'th was,
y gair y gwnaethost imi ymddiried ynddo.
50Hyn fu fy nghysur mewn adfyd,
fod dy addewid di yn fy adfywio.
51Y mae'r trahaus yn fy ngwawdio o hyd,
ond ni throis oddi wrth dy gyfraith.
52Yr wyf yn cofio dy farnau erioed,
ac yn cael cysur ynddynt, O ARGLWYDD.
53Cydia digofaint ynof oherwydd y rhai drygionus
sy'n gwrthod dy gyfraith.
54Daeth dy ddeddfau'n gân i mi
ymhle bynnag y bûm yn byw.
55Yr wyf yn cofio dy enw yn y nos, O ARGLWYDD,
ac fe gadwaf dy gyfraith.
56Hyn sydd wir amdanaf,
imi ufuddhau i'th ofynion.
57Ti yw fy rhan, O ARGLWYDD;
addewais gadw dy air.
58Yr wyf yn erfyn arnat â'm holl galon,
bydd drugarog wrthyf yn ôl dy addewid.
59Pan feddyliaf am fy ffyrdd,
trof fy nghamre'n ôl at dy farnedigaethau;
60brysiaf, heb oedi,
i gadw dy orchmynion.
61Er i glymau'r drygionus dynhau amdanaf,
eto nid anghofiais dy gyfraith.
62Codaf ganol nos i'th foliannu di
am dy farnau cyfiawn.
63Yr wyf yn gymar i bawb sy'n dy ofni,
i'r rhai sy'n ufuddhau i'th ofynion.
64Y mae'r ddaear, O ARGLWYDD, yn llawn o'th ffyddlondeb;
dysg i mi dy ddeddfau.
65Gwnaethost ddaioni i'th was,
yn unol â'th air, O ARGLWYDD.
66Dysg imi ddirnadaeth a gwybodaeth,
oherwydd yr wyf yn ymddiried yn dy orchmynion.
67Cyn imi gael fy ngheryddu euthum ar gyfeiliorn,
ond yn awr yr wyf yn cadw dy air.
68Yr wyt ti yn dda, ac yn gwneud daioni;
dysg i mi dy ddeddfau.
69Y mae'r trahaus yn fy mhardduo â chelwydd,
ond yr wyf fi'n ufuddhau i'th ofynion â'm holl galon;
70y mae eu calon hwy'n drwm gan fraster,
ond yr wyf fi'n ymhyfrydu yn dy gyfraith.
71Mor dda yw imi gael fy ngheryddu,
er mwyn imi gael dysgu dy ddeddfau!
72Y mae cyfraith dy enau yn well i mi
na miloedd o aur ac arian.
73Dy ddwylo di a'm gwnaeth ac a'm lluniodd;
rho imi ddeall i ddysgu dy orchmynion.
74Pan fydd y rhai sy'n dy ofni yn fy ngweld, fe lawenychant
am fy mod yn gobeithio yn dy air.
75Gwn, O ARGLWYDD, fod dy farnau'n gyfiawn,
ac mai mewn ffyddlondeb yr wyt wedi fy ngheryddu.
76Bydded dy gariad yn gysur i mi,
yn unol â'th addewid i'th was.
77Pâr i'th drugaredd ddod ataf, fel y byddaf fyw,
oherwydd y mae dy gyfraith yn hyfrydwch i mi.
78Cywilyddier y trahaus oherwydd i'w celwydd fy niweidio,
ond byddaf fi'n myfyrio ar dy ofynion.
79Bydded i'r rhai sy'n dy ofni droi ataf fi,
iddynt gael gwybod dy farnedigaethau.
80Bydded fy nghalon bob amser yn dy ddeddfau,
rhag imi gael fy nghywilyddio.
81Y mae fy enaid yn dyheu am dy iachawdwriaeth,
ac yn gobeithio yn dy air;
82y mae fy llygaid yn pylu wrth ddisgwyl am dy addewid;
dywedaf, “Pa bryd y byddi'n fy nghysuro?”
83Er imi grebachu fel costrel groen mewn mwg,
eto nid anghofiaf dy ddeddfau.
84Am ba hyd y disgwyl dy was
cyn iti roi barn ar fy erlidwyr?
85Y mae gwŷr trahaus, rhai sy'n anwybyddu dy gyfraith,
wedi cloddio pwll ar fy nghyfer.
86Y mae dy holl orchmynion yn sicr;
pan fyddant yn fy erlid â chelwydd, cynorthwya fi.
87Bu ond y dim iddynt fy nifetha oddi ar y ddaear,
ond eto ni throis fy nghefn ar dy ofynion.
88Yn ôl dy gariad adfywia fi,
ac fe gadwaf farnedigaethau dy enau.
89Y mae dy air, O ARGLWYDD, yn dragwyddol,
wedi ei osod yn sefydlog yn y nefoedd.
90Y mae dy ffyddlondeb hyd genhedlaeth a chenhedlaeth;
seiliaist y ddaear, ac y mae'n sefyll.
91Yn ôl dy ordeiniadau y maent yn sefyll hyd heddiw,
oherwydd gweision i ti yw'r cyfan.
92Oni bai i'th gyfraith fod yn hyfrydwch i mi,
byddai wedi darfod amdanaf yn fy adfyd;
93nid anghofiaf dy ofynion hyd byth,
oherwydd trwyddynt hwy adfywiaist fi.
94Eiddot ti ydwyf; gwareda fi,
oherwydd ceisiais dy ofynion.
95Y mae'r drygionus yn gwylio amdanaf i'm dinistrio,
ond fe ystyriaf fi dy farnedigaethau.
96Gwelaf fod popeth yn dod i ben,
ond nid oes terfyn i'th orchymyn di.
97O fel yr wyf yn caru dy gyfraith!
Hi yw fy myfyrdod drwy'r dydd.
98Y mae dy orchymyn yn fy ngwneud yn ddoethach na'm gelynion,
oherwydd y mae gyda mi bob amser.
99Yr wyf yn fwy deallus na'm holl athrawon,
oherwydd bod dy farnedigaethau'n fyfyrdod i mi.
100Yr wyf yn deall yn well na'r rhai hen,
oherwydd imi ufuddhau i'th ofynion.
101Cedwais fy nhraed rhag pob llwybr drwg,
er mwyn imi gadw dy air.
102Nid wyf wedi troi oddi wrth dy farnau,
oherwydd ti fu'n fy nghyfarwyddo.
103Mor felys yw dy addewid i'm genau,
melysach na mêl i'm gwefusau.
104O'th ofynion di y caf ddeall;
dyna pam yr wyf yn casáu llwybrau twyll.
105Y mae dy air yn llusern i'm troed,
ac yn oleuni i'm llwybr.
106Tyngais lw, a gwneud adduned
i gadw dy farnau cyfiawn.
107Yr wyf mewn gofid mawr;
O ARGLWYDD, adfywia fi yn ôl dy air.
108Derbyn deyrnged fy ngenau, O ARGLWYDD,
a dysg i mi dy farnedigaethau.
109Bob dydd y mae fy mywyd yn fy nwylo,
ond nid wyf yn anghofio dy gyfraith.
110Gosododd y drygionus rwyd i mi,
ond nid wyf wedi gwyro oddi wrth dy ofynion.
111Y mae dy farnedigaethau yn etifeddiaeth imi am byth,
oherwydd y maent yn llonder i'm calon.
112Yr wyf wedi gosod fy mryd ar ufuddhau i'th ddeddfau;
y mae eu gwobr yn dragwyddol.
113Yr wyf yn casáu rhai anwadal,
ond yn caru dy gyfraith.
114Ti yw fy lloches a'm tarian;
yr wyf yn gobeithio yn dy air.
115Trowch ymaith oddi wrthyf, chwi rai drwg,
er mwyn imi gadw gorchmynion fy Nuw.
116Cynnal fi yn ôl dy addewid, fel y byddaf fyw,
ac na chywilyddier fi yn fy hyder.
117Dal fi i fyny, fel y caf waredigaeth,
imi barchu dy ddeddfau yn wastad.
118Yr wyt yn gwrthod pawb sy'n gwyro oddi wrth dy ddeddfau,
oherwydd mae eu twyll yn ofer.
119Yn sothach yr ystyri holl rai drygionus y ddaear;
am hynny yr wyf yn caru dy farnedigaethau.
120Y mae fy nghnawd yn crynu gan dy arswyd,
ac yr wyf yn ofni dy farnau.
121Gwneuthum farn a chyfiawnder;
paid â'm gadael i'm gorthrymwyr.
122Bydd yn feichiau er lles dy was;
paid â gadael i'r trahaus fy ngorthrymu.
123Y mae fy llygaid yn pylu wrth ddisgwyl am dy iachawdwriaeth,
ac am dy addewid o fuddugoliaeth.
124Gwna â'th was yn ôl dy gariad,
a dysg i mi dy ddeddfau.
125Dy was wyf fi; rho imi ddeall
i wybod dy farnedigaethau.
126Y mae'n amser i'r ARGLWYDD weithredu,
oherwydd torrwyd dy gyfraith.
127Er hynny yr wyf yn caru dy orchmynion
yn fwy nag aur, nag aur coeth.
128Am hyn cerddaf yn union yn ôl dy holl ofynion,
a chasâf lwybrau twyll.
129Y mae dy farnedigaethau'n rhyfeddol;
am hynny yr wyf yn eu cadw.
130Pan ddatguddir dy air, bydd yn goleuo
ac yn rhoi deall i'r syml.
131Yr wyf yn agor fy ngheg mewn blys,
oherwydd yr wyf yn dyheu am dy orchmynion.
132Tro ataf a bydd drugarog,
yn ôl dy arfer i'r rhai sy'n caru dy enw.
133Cadw fy ngham yn sicr fel yr addewaist,
a phaid â gadael i ddrygioni fy meistroli.
134Rhyddha fi oddi wrth ormes dynol,
er mwyn imi ufuddhau i'th ofynion di.
135Bydded llewyrch dy wyneb ar dy was,
a dysg i mi dy ddeddfau.
136Y mae fy llygaid yn ffrydio dagrau
am nad yw pobl yn cadw dy gyfraith.
137Cyfiawn wyt ti, O ARGLWYDD,
a chywir yw dy farnau.
138Y mae'r barnedigaethau a roddi yn gyfiawn
ac yn gwbl ffyddlon.
139Y mae fy nghynddaredd yn fy ysu
am fod fy ngelynion yn anghofio dy eiriau.
140Y mae dy addewid wedi ei phrofi'n llwyr,
ac y mae dy was yn ei charu.
141Er fy mod i yn fychan ac yn ddinod,
nid wyf yn anghofio dy ofynion.
142Y mae dy gyfiawnder di yn gyfiawnder tragwyddol,
ac y mae dy gyfraith yn wirionedd.
143Daeth cyfyngder a gofid ar fy ngwarthaf,
ond yr wyf yn ymhyfrydu yn dy orchmynion.
144Y mae dy farnedigaethau di'n gyfiawn byth;
rho imi ddeall, fel y byddaf fyw.
145Gwaeddaf â'm holl galon; ateb fi, ARGLWYDD,
ac fe fyddaf ufudd i'th ddeddfau.
146Gwaeddaf arnat ti; gwareda fi,
ac fe gadwaf dy farnedigaethau.
147Codaf cyn y wawr a gofyn am gymorth,
a gobeithiaf yn dy eiriau.
148Y mae fy llygaid yn effro yng ngwyliadwriaethau'r nos,
i fyfyrio ar dy addewid.
149Gwrando fy llef yn ôl dy gariad;
O ARGLWYDD, yn ôl dy farnau adfywia fi.
150Y mae fy erlidwyr dichellgar yn agosáu,
ond y maent yn bell oddi wrth dy gyfraith.
151Yr wyt ti yn agos, O ARGLWYDD,
ac y mae dy holl orchmynion yn wirionedd.
152Gwn erioed am dy farnedigaethau,
i ti eu sefydlu am byth.
153Edrych ar fy adfyd a gwared fi,
oherwydd nid anghofiais dy gyfraith.
154Amddiffyn fy achos ac achub fi;
adfywia fi yn ôl dy addewid.
155Y mae iachawdwriaeth ymhell oddi wrth y drygionus,
oherwydd nid ydynt yn ceisio dy ddeddfau.
156Mawr yw dy drugaredd, O ARGLWYDD;
adfywia fi yn ôl dy farn.
157Y mae fy erlidwyr a'm gelynion yn niferus,
ond eto ni wyrais oddi wrth dy farnedigaethau.
158Gwelais y rhai twyllodrus, a ffieiddiais
am nad ydynt yn cadw dy air.
159Gwêl fel yr wyf yn caru dy ofynion;
O ARGLWYDD, adfywia fi yn ôl dy gariad.
160Hanfod dy air yw gwirionedd,
ac y mae dy holl farnau cyfiawn yn dragwyddol.
161Y mae tywysogion yn fy erlid yn ddiachos,
ond dy air di yw arswyd fy nghalon.
162Yr wyf yn llawenhau o achos dy addewid,
fel un sy'n cael ysbail fawr.
163Yr wyf yn casáu ac yn ffieiddio twyll,
ond yn caru dy gyfraith di.
164Seithwaith y dydd yr wyf yn dy foli
oherwydd dy farnau cyfiawn.
165Caiff y rhai sy'n caru dy gyfraith wir heddwch,
ac nid oes dim yn peri iddynt faglu.
166Yr wyf yn disgwyl am dy iachawdwriaeth, O ARGLWYDD,
ac yn ufuddhau i'th orchmynion.
167Yr wyf yn cadw dy farnedigaethau
ac yn eu caru'n fawr.
168Yr wyf yn ufudd i'th ofynion a'th farnedigaethau,
oherwydd y mae fy holl ffyrdd o'th flaen.
169Doed fy llef atat, O ARGLWYDD;
rho imi ddeall yn ôl dy air.
170Doed fy neisyfiad atat;
gwared fi yn ôl dy addewid.
171Bydd fy ngwefusau'n tywallt moliant
am iti ddysgu i mi dy ddeddfau.
172Bydd fy nhafod yn canu am dy addewid,
oherwydd y mae dy holl orchmynion yn gyfiawn.
173Bydded dy law yn barod i'm cynorthwyo,
oherwydd yr wyf wedi dewis dy ofynion.
174Yr wyf yn dyheu am dy iachawdwriaeth, O ARGLWYDD,
ac yn ymhyfrydu yn dy gyfraith.
175Gad imi fyw i'th foliannu di,
a bydded i'th farnau fy nghynorthwyo.
176Euthum ar gyfeiliorn fel dafad ar goll;
chwilia am dy was,
oherwydd nid anghofiais dy orchmynion.
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004