No themes applied yet
1Molwch yr ARGLWYDD.
Molwch enw'r ARGLWYDD,
molwch ef, chwi weision yr ARGLWYDD,
2sy'n sefyll yn nhŷ'r ARGLWYDD,
yng nghynteddoedd ein Duw.
3Molwch yr ARGLWYDD, oherwydd da yw ef;
canwch i'w enw, oherwydd y mae'n ddymunol.
4Dewisodd yr ARGLWYDD Jacob iddo'i hunan,
ac Israel yn drysor arbennig iddo.
5Oherwydd fe wn i fod yr ARGLWYDD yn fawr,
a bod ein Harglwydd ni yn rhagori ar yr holl dduwiau.
6Fe wna'r ARGLWYDD beth bynnag a ddymuna,
yn y nefoedd ac ar y ddaear,
yn y moroedd a'r holl ddyfnderau.
7Pâr i gymylau godi o derfynau'r ddaear;
fe wna fellt ar gyfer y glaw,
a daw gwynt allan o'i ystordai.
8Fe drawodd rai cyntafanedig yr Aifft,
yn ddyn ac anifail;
9anfonodd arwyddion a rhybuddion trwy ganol yr Aifft,
yn erbyn Pharo a'i holl ddeiliaid.
10Fe drawodd genhedloedd mawrion,
a lladd brenhinoedd cryfion—
11Sihon brenin yr Amoriaid,
Og brenin Basan,
a holl dywysogion Canaan;
12rhoddodd eu tir yn etifeddiaeth,
yn etifeddiaeth i'w bobl Israel.
13Y mae dy enw, O ARGLWYDD, am byth,
a'th enwogrwydd o genhedlaeth i genhedlaeth.
14Oherwydd fe rydd yr ARGLWYDD gyfiawnder i'w bobl,
a bydd yn trugarhau wrth ei weision.
15Arian ac aur yw delwau'r cenhedloedd,
ac wedi eu gwneud â dwylo dynol.
16Y mae ganddynt enau nad ydynt yn siarad,
a llygaid nad ydynt yn gweld;
17y mae ganddynt glustiau nad ydynt yn clywed,
ac nid oes anadl yn eu ffroenau.
18Y mae eu gwneuthurwyr yn mynd yn debyg iddynt,
ac felly hefyd bob un sy'n ymddiried ynddynt.
19Dylwyth Israel, bendithiwch yr ARGLWYDD;
Dylwyth Aaron, bendithiwch yr ARGLWYDD.
20Dylwyth Lefi, bendithiwch yr ARGLWYDD;
pob un sy'n ofni'r ARGLWYDD, bendithiwch yr ARGLWYDD.
21Bendigedig yn Seion fyddo'r ARGLWYDD
sydd yn trigo yn Jerwsalem.
Molwch yr ARGLWYDD.
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004