No themes applied yet
I'r Cyfarwyddwr: Salm. I Ddafydd.
1O ARGLWYDD, gwared fi rhag pobl ddrygionus;
cadw fi rhag rhai sy'n gorthrymu,
2rhai sy'n cynllunio drygioni yn eu calon,
a phob amser yn codi cythrwfl.
3Y mae eu tafod yn finiog fel sarff,
ac y mae gwenwyn gwiber dan eu gwefusau.
Sela
4O ARGLWYDD, arbed fi rhag dwylo'r drygionus;
cadw fi rhag rhai sy'n gorthrymu,
rhai sy'n cynllunio i faglu fy nhraed.
5Bu rhai trahaus yn cuddio magl i mi,
a rhai dinistriol yn taenu rhwyd,
ac yn gosod maglau ar ymyl y ffordd.
Sela
6Dywedais wrth yr ARGLWYDD, “Fy Nuw wyt ti”;
gwrando, O ARGLWYDD, ar lef fy ngweddi.
7O ARGLWYDD Dduw, fy iachawdwriaeth gadarn,
cuddiaist fy mhen yn nydd brwydr.
8O ARGLWYDD, paid â rhoi eu dymuniad i'r drygionus,
paid â llwyddo eu bwriad.
Sela
9Y mae rhai o'm hamgylch yn codi140:9 Hebraeg, y maent yn codi ar ddiwedd adn. 8. eu pen,
ond bydded i ddrygioni eu gwefusau eu llethu.
10Bydded i farwor tanllyd syrthio arnynt;
bwrier hwy i ffosydd dyfnion heb allu codi.
11Na fydded lle i'r enllibus yn y wlad;
bydded i ddrygioni ymlid y gorthrymwr yn ddiarbed.
12Gwn y gwna'r ARGLWYDD gyfiawnder â'r truan,
ac y rhydd farn i'r anghenus.
13Yn sicr bydd y cyfiawn yn clodfori dy enw;
bydd yr uniawn yn byw yn dy bresenoldeb.
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004