No themes applied yet
Emyn Mawl. I Ddafydd.
1Dyrchafaf di, fy Nuw, O Frenin,
a bendithiaf dy enw byth bythoedd.
2Bob dydd bendithiaf di,
a moliannu dy enw byth bythoedd.
3Mawr yw'r ARGLWYDD, a theilwng iawn o fawl,
ac y mae ei fawredd yn anchwiliadwy.
4Molianna'r naill genhedlaeth dy waith wrth y llall,
a mynegi dy weithredoedd nerthol.
5Am ysblander gogoneddus dy fawredd y dywedant,
a myfyrio145:5 Felly Fersiynau. Hebraeg, rhof. ar dy ryfeddodau.
6Cyhoeddant rym dy weithredoedd ofnadwy,
ac adrodd am dy fawredd.
7Dygant i gof dy ddaioni helaeth,
a chanu am dy gyfiawnder.
8Graslon a thrugarog yw'r ARGLWYDD,
araf i ddigio, a llawn ffyddlondeb.
9Y mae'r ARGLWYDD yn dda wrth bawb,
ac y mae ei drugaredd tuag at ei holl waith.
10Y mae dy holl waith yn dy foli, ARGLWYDD,
a'th saint yn dy fendithio.
11Dywedant am ogoniant dy deyrnas,
a sôn am dy nerth,
12er mwyn dangos i bobl dy weithredoedd nerthol
ac ysblander gogoneddus dy deyrnas.
13Teyrnas dragwyddol yw dy deyrnas,
a saif dy lywodraeth byth bythoedd.
Y mae'r ARGLWYDD yn ffyddlon yn ei holl eiriau,
ac yn drugarog yn ei holl weithredoedd.145:13 Felly un llawysgrif, Fersiynau a Sgrôl. TM heb Y mae'r… weithredoedd.
14Fe gynnal yr ARGLWYDD bawb sy'n syrthio,
a chodi pawb sydd wedi eu darostwng.
15Try llygaid pawb mewn gobaith atat ti,
ac fe roi iddynt eu bwyd yn ei bryd;
16y mae dy law yn agored,
ac yr wyt yn diwallu popeth byw yn ôl d'ewyllys.
17Y mae'r ARGLWYDD yn gyfiawn yn ei holl ffyrdd
ac yn ffyddlon yn ei holl weithredoedd.
18Y mae'r ARGLWYDD yn agos at bawb sy'n galw arno,
at bawb sy'n galw arno mewn gwirionedd.
19Gwna ddymuniad y rhai sy'n ei ofni;
gwrendy ar eu cri, a gwareda hwy.
20Gofala'r ARGLWYDD am bawb sy'n ei garu,
ond y mae'n distrywio'r holl rai drygionus.
21Llefara fy ngenau foliant yr ARGLWYDD,
a bydd pob creadur yn bendithio'i enw sanctaidd
byth bythoedd.
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004