No themes applied yet
1Molwch yr ARGLWYDD.
Da yw canu mawl i'n Duw ni,
oherwydd hyfryd a gweddus yw mawl.
2Y mae'r ARGLWYDD yn adeiladu Jerwsalem,
y mae'n casglu rhai gwasgaredig Israel.
3Y mae'n iacháu'r rhai drylliedig o galon,
ac yn rhwymo eu doluriau.
4Y mae'n pennu nifer y sêr,
ac yn rhoi enwau arnynt i gyd.
5Mawr yw ein Harglwydd ni, a chryf o nerth;
y mae ei ddoethineb yn ddifesur.
6Y mae'r ARGLWYDD yn codi'r rhai gostyngedig,
ond yn bwrw'r drygionus i'r llawr.
7Canwch i'r ARGLWYDD mewn diolch,
canwch fawl i'n Duw â'r delyn.
8Y mae ef yn gorchuddio'r nefoedd â chymylau,
ac yn darparu glaw i'r ddaear;
y mae'n gwisgo'r mynyddoedd â glaswellt,
a phlanhigion at wasanaeth pobl147:8 Felly Groeg a Fwlgat. Cymh. 104:14. Hebraeg heb a phlanhigion… pobl..
9Y mae'n rhoi eu porthiant i'r anifeiliaid,
a'r hyn a ofynnant i gywion y gigfran.
10Nid yw'n ymhyfrydu yn nerth march,
nac yn cael pleser yng nghyhyrau gŵr;
11ond pleser yr ARGLWYDD yw'r rhai sy'n ei ofni,
y rhai sy'n gobeithio yn ei gariad.
12Molianna yr ARGLWYDD, O Jerwsalem;
mola dy Dduw, O Seion,
13oherwydd cryfhaodd farrau dy byrth,
a bendithiodd dy blant o'th fewn.
14Y mae'n rhoi heddwch i'th derfynau,
ac yn dy ddigoni â'r ŷd gorau.
15Y mae'n anfon ei orchymyn i'r ddaear,
ac y mae ei air yn rhedeg yn gyflym.
16Y mae'n rhoi eira fel gwlân,
yn taenu barrug fel lludw,
17ac yn gwasgaru ei rew fel briwsion;
pwy a all ddal ei oerni ef?
18Y mae'n anfon ei air, ac yn eu toddi;
gwna i'w wynt chwythu, ac fe lifa'r dyfroedd.
19Y mae'n mynegi ei air i Jacob,
ei ddeddfau a'i farnau i Israel;
20ni wnaeth fel hyn ag unrhyw genedl,
na dysgu iddynt ei farnau.
Molwch yr ARGLWYDD.
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004