No themes applied yet
Gweddi. I Ddafydd.
1Gwrando, ARGLWYDD, gri am gyfiawnder;
rho sylw i'm llef
a gwrandawiad i'm gweddi
oddi ar wefusau didwyll.
2Doed fy marn oddi wrthyt ti,
edryched dy lygaid ar yr hyn sy'n iawn.
3Profaist fy nghalon a'm gwylio yn y nos,
chwiliaist fi ond heb gael drygioni ynof.
4Ni throseddodd17:4 Felly'r Fersiynau. Hebraeg, heb gael. Fe'm bwriadwyd fel na throseddai. fy ngenau fel y gwna eraill,
ond fe gedwais eiriau dy wefusau.
5Ar lwybrau'r anufudd byddai fy nghamau'n pallu,
ond ar dy lwybrau di nid yw fy nhraed yn methu.
6Gwaeddaf arnat ti am dy fod yn f'ateb, O Dduw;
tro dy glust ataf, gwrando fy ngeiriau.
7Dangos dy ffyddlondeb rhyfeddol,
ti, sy'n gwaredu â'th ddeheulaw
y rhai sy'n llochesu ynot rhag eu gwrthwynebwyr.
8Cadw fi fel cannwyll dy lygad,
cuddia fi dan gysgod dy adenydd
9rhag y drygionus sy'n fy nistrywio,
y gelynion sydd yn eu gwanc yn f'amgylchu.
10Maent wedi mygu tosturi,
y mae eu genau'n llefaru balchder;
11y maent ar fy sodlau ac ar gau amdanaf,17:11 Tebygol. Hebraeg, y maent wedi amgylchu ein camau.
wedi gosod eu bryd ar fy mwrw i'r llawr;
12y maent fel llew yn barod i larpio,
fel llew ifanc yn llechu yn ei guddfan.
13Cyfod, ARGLWYDD, saf yn eu herbyn a'u bwrw i lawr!
Â'th gleddyf gwared fy mywyd rhag y drygionus;
14â'th law, ARGLWYDD, gwna ddiwedd arnynt,
difa hwy o'u rhan yng nghanol bywyd.
Llanwer eu bol â'r hyn sydd gennyt ar eu cyfer,
bydded i'w plant gael digon,
a chadw gweddill i'w babanod!
15Ond byddaf fi yn fy nghyfiawnder yn gweld dy wyneb;
pan ddeffroaf, digonir fi o weld dy wedd.
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004