No themes applied yet
1Pam y mae'r cenhedloedd yn terfysgu
a'r bobloedd yn cynllwyn yn ofer?
2Y mae brenhinoedd y ddaear yn barod,
a'r llywodraethwyr yn ymgynghori â'i gilydd
yn erbyn yr ARGLWYDD a'i eneiniog:
3“Gadewch inni ddryllio eu rhwymau,
a thaflu ymaith eu rheffynnau.”
4Fe chwardd yr un sy'n eistedd yn y nefoedd;
y mae'r Arglwydd yn eu gwatwar.
5Yna fe lefara wrthynt yn ei lid
a'u dychryn yn ei ddicter:
6“Yr wyf fi wedi gosod fy mrenin
ar Seion, fy mynydd sanctaidd.”
7Adroddaf am ddatganiad yr ARGLWYDD.
Dywedodd wrthyf, “Fy mab wyt ti,
myfi a'th genhedlodd di heddiw;
8gofyn, a rhoddaf iti'r cenhedloedd yn etifeddiaeth,
ac eithafoedd daear yn eiddo iti;
9fe'u drylli â gwialen haearn
a'u malurio fel llestr pridd.”
10Yn awr, frenhinoedd, byddwch ddoeth;
farnwyr y ddaear, cymerwch gyngor;
11gwasanaethwch yr ARGLWYDD mewn ofn,
mewn cryndod cusanwch ei draed,2:11 Tebygol. Hebraeg, a llawenhewch mewn cryndod. 12 Cusanwch y mab.
12rhag iddo ffromi ac i chwi gael eich difetha;
oherwydd fe gyneua ei lid mewn dim.
Gwyn eu byd y rhai sy'n llochesu ynddo.
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004