No themes applied yet
I'r Cyfarwyddwr: ar Ewig y Wawr. Salm. I Ddafydd.
1Fy Nuw, fy Nuw, pam yr wyt wedi fy ngadael,
ac yn cadw draw rhag fy ngwaredu ac oddi wrth eiriau fy ngriddfan?
2O fy Nuw, gwaeddaf arnat liw dydd, ond nid wyt yn ateb,
a'r nos, ond ni chaf lonyddwch.
3Eto, yr wyt ti, y Sanctaidd, wedi dy orseddu
yn foliant i Israel.
4Ynot ti yr oedd ein hynafiaid yn ymddiried,
yn ymddiried a thithau'n eu gwaredu.
5Arnat ti yr oeddent yn gweiddi ac achubwyd hwy,
ynot ti yr oeddent yn ymddiried ac ni chywilyddiwyd hwy.
6Pryfyn wyf fi ac nid dyn,
gwawd a dirmyg i bobl.
7Y mae pawb sy'n fy ngweld yn fy ngwatwar,
yn gwneud ystumiau arnaf ac yn ysgwyd pen:
8“Rhoes ei achos i'r ARGLWYDD, bydded iddo ef ei achub!
Bydded iddo ef ei waredu, oherwydd y mae'n ei hoffi!”
9Ond ti a'm tynnodd allan o'r groth,
a'm rhoi ar fronnau fy mam;
10arnat ti y bwriwyd fi ar fy ngenedigaeth,
ac o groth fy mam ti yw fy Nuw.
11Paid â phellhau oddi wrthyf,
oherwydd y mae fy argyfwng yn agos
ac nid oes neb i'm cynorthwyo.
12Y mae gyr o deirw o'm cwmpas,
rhai cryfion o Basan yn cau amdanaf;
13y maent yn agor eu safn amdanaf
fel llew yn rheibio a rhuo.
14Yr wyf wedi fy nihysbyddu fel dŵr,
a'm holl esgyrn yn ymddatod;
y mae fy nghalon fel cwyr,
ac yn toddi o'm mewn;
15y mae fy ngheg22:15 Tebygol. Hebraeg, fy nerth. yn sych fel cragen
a'm tafod yn glynu wrth daflod fy ngenau;
yr wyt wedi fy mwrw i lwch marwolaeth.
16Y mae cŵn o'm hamgylch,
haid o ddihirod yn cau amdanaf;
y maent yn trywanu22:16 Felly'r Fersiynau. Hebraeg, fel llew. fy nwylo a'm traed.
17Gallaf gyfrif pob un o'm hesgyrn,
ac y maent hwythau'n edrych ac yn rhythu arnaf.
18Y maent yn rhannu fy nillad yn eu mysg,
ac yn bwrw coelbren ar fy ngwisg.
19Ond ti, ARGLWYDD, paid â sefyll draw;
O fy nerth, brysia i'm cynorthwyo.
20Gwared fi rhag y cleddyf,
a'm hunig fywyd o afael y cŵn.
21Achub fi o safn y llew,
a'm bywyd tlawd22:21 Felly'r Fersiynau. Hebraeg, ac atebaist fi. rhag cyrn yr ychen gwyllt.
22Fe gyhoeddaf dy enw i'm cydnabod,
a'th foli yng nghanol y gynulleidfa:
23“Molwch ef, chwi sy'n ofni'r ARGLWYDD;
rhowch anrhydedd iddo, holl dylwyth Jacob;
ofnwch ef, holl dylwyth Israel.
24Oherwydd ni ddirmygodd na diystyru
gorthrwm y gorthrymedig;
ni chuddiodd ei wyneb oddi wrtho,
ond gwrando arno pan lefodd.”
25Oddi wrthyt ti y daw fy mawl yn y gynulleidfa fawr,
a thalaf fy addunedau yng ngŵydd y rhai sy'n ei ofni.
26Bydd yr anghenus yn bwyta, ac yn cael digon,
a'r rhai sy'n ceisio'r ARGLWYDD yn ei foli.
Bydded i'w22:26 Felly Groeg. Hebraeg, i'ch. calonnau fyw byth!
27Bydd holl gyrrau'r ddaear yn cofio
ac yn dychwelyd at yr ARGLWYDD,
a holl dylwythau'r cenhedloedd
yn ymgrymu o'i flaen.
28Oherwydd i'r ARGLWYDD y perthyn brenhiniaeth,
ac ef sy'n llywodraethu dros y cenhedloedd.
29Sut y gall y rhai sy'n cysgu yn y ddaear blygu22:29 Tebygol. Hebraeg, Bwytaodd a phlygodd holl rai breision y ddaear. iddo ef,
a'r rhai sy'n disgyn i'r llwch ymgrymu o'i flaen?
Ond byddaf fi fyw iddo ef,22:29 Tebygol. Hebraeg, A'i einioes ni cheidw'n fyw.
30a bydd fy mhlant yn ei wasanaethu;
dywedir am yr ARGLWYDD wrth genedlaethau i ddod,
31a chyhoeddi ei gyfiawnder wrth bobl heb eu geni,
mai ef a fu'n gweithredu.
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004