No themes applied yet
Salm. I Ddafydd.
1Eiddo'r ARGLWYDD yw'r ddaear a'i llawnder,
y byd a'r rhai sy'n byw ynddo;
2oherwydd ef a'i sylfaenodd ar y moroedd
a'i sefydlu ar yr afonydd.
3Pwy a esgyn i fynydd yr ARGLWYDD
a phwy a saif yn ei le sanctaidd?
4Y glân ei ddwylo a'r pur o galon,
yr un sydd heb osod ei feddwl ar dwyll
a heb dyngu'n gelwyddog.
5Fe dderbyn fendith gan yr ARGLWYDD
a chyfiawnder gan Dduw ei iachawdwriaeth.
6Dyma'r genhedlaeth sy'n ei geisio,
sy'n ceisio wyneb Duw24:6 Felly rhai llawysgrifau a'r Fersiynau. TM, ceisio dy wyneb. Jacob.
Sela
7Codwch eich pennau, O byrth!
Ymddyrchefwch, O ddrysau tragwyddol!
i frenin y gogoniant ddod i mewn.
8Pwy yw'r brenin gogoniant hwn?
Yr ARGLWYDD, cryf a chadarn,
yr ARGLWYDD, cadarn mewn rhyfel.
9Codwch eich pennau, O byrth!
Ymddyrchefwch, O ddrysau tragwyddol!
i frenin y gogoniant ddod i mewn.
10Pwy yw'r brenin gogoniant hwn?
ARGLWYDD y Lluoedd,
ef yw brenin y gogoniant.
Sela
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004