No themes applied yet
I Ddafydd.
1Atat ti, ARGLWYDD, y dyrchafaf fy enaid;
2O fy Nuw, ynot ti yr wyf yn ymddiried;
paid â dwyn cywilydd arnaf,
paid â gadael i'm gelynion orfoleddu o'm hachos.
3Ni ddaw cywilydd i'r rhai sy'n gobeithio ynot ti,
ond fe ddaw i'r rhai sy'n llawn brad heb achos.
4Gwna imi wybod dy ffyrdd, O ARGLWYDD,
hyffordda fi yn dy lwybrau.
5Arwain fi yn dy wirionedd a dysg fi,
oherwydd ti yw Duw fy iachawdwriaeth;
wrthyt ti y bûm yn disgwyl trwy'r dydd.
6O ARGLWYDD, cofia dy drugaredd a'th ffyddlondeb,
oherwydd y maent erioed.
7Paid â chofio pechodau fy ieuenctid na'm gwrthryfel,
ond yn dy gariad cofia fi,
er mwyn dy ddaioni, O ARGLWYDD.
8Y mae'r ARGLWYDD yn dda ac uniawn,
am hynny fe ddysg y ffordd i bechaduriaid.
9Fe arwain y gostyngedig yn yr hyn sy'n iawn,
a dysgu ei ffordd i'r gostyngedig.
10Y mae holl lwybrau'r ARGLWYDD yn llawn cariad a gwirionedd
i'r rhai sy'n cadw ei gyfamod a'i gyngor.
11Er mwyn dy enw, ARGLWYDD,
maddau fy nghamwedd, oherwydd y mae'n fawr.
12Pwy bynnag sy'n ofni'r ARGLWYDD,
fe'i dysg pa ffordd i'w dewis;
13fe gaiff fyw'n ffyniannus,
a bydd ei blant yn etifeddu'r tir.
14Caiff y rhai sy'n ei ofni gyfeillach yr ARGLWYDD
a hefyd ei gyfamod i'w dysgu.
15Y mae fy llygaid yn wastad ar yr ARGLWYDD,
oherwydd y mae'n rhyddhau fy nhraed o'r rhwyd.
16Tro ataf, a bydd drugarog wrthyf,
oherwydd unig ac anghenus wyf fi.
17Esmwythâ gyfyngder fy nghalon,
a dwg fi allan o'm hadfyd.
18Edrych ar fy nhrueni a'm gofid,
a maddau fy holl bechodau.
19Gwêl mor niferus yw fy ngelynion
ac fel y maent yn fy nghasáu â chas perffaith.
20Cadw fi a gwared fi,
na ddoed cywilydd arnaf,
oherwydd ynot ti yr wyf yn llochesu.
21Bydd cywirdeb ac uniondeb yn fy niogelu,
oherwydd gobeithiais ynot ti.
22O Dduw, gwareda Israel
o'i holl gyfyngderau.
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004