No themes applied yet
I'r Cyfarwyddwr: Salm. I Ddafydd.
1Ynot ti, ARGLWYDD, y ceisiais loches,
na fydded cywilydd arnaf byth;
achub fi yn dy gyfiawnder,
2tro dy glust ataf,
a brysia i'm gwaredu;
bydd i mi'n graig noddfa,
yn amddiffynfa i'm cadw.
3Yr wyt ti'n graig ac yn amddiffynfa i mi;
er mwyn dy enw, arwain a thywys fi.
4Tyn fi o'r rhwyd a guddiwyd ar fy nghyfer,
oherwydd ti yw fy noddfa.
5Cyflwynaf fy ysbryd i'th law di;
gwaredaist fi, ARGLWYDD, y Duw ffyddlon.
6Yr wyf yn casáu'r rhai sy'n glynu wrth eilunod gwag,
ac ymddiriedaf fi yn yr ARGLWYDD.
7Llawenychaf a gorfoleddaf yn dy ffyddlondeb,
oherwydd iti edrych ar fy adfyd
a rhoi sylw imi yn fy nghyfyngder.
8Ni roddaist fi yn llaw fy ngelyn,
ond gosodaist fy nhraed mewn lle agored.
9Bydd drugarog wrthyf, ARGLWYDD, oherwydd y mae'n gyfyng arnaf;
y mae fy llygaid yn pylu gan ofid,
fy enaid a'm corff hefyd;
10y mae fy mywyd yn darfod gan dristwch
a'm blynyddoedd gan gwynfan;
fe sigir fy nerth gan drallod31:10 Felly Groeg. Hebraeg, gan fy nghamwedd.,
ac y mae fy esgyrn yn darfod.
11I'm holl elynion yr wyf yn ddirmyg,
i'm cymdogion yn watwar31:11 Tebygol. Hebraeg, yn ddirfawr.,
ac i'm cyfeillion yn arswyd;
y mae'r rhai sy'n fy ngweld ar y stryd yn ffoi oddi wrthyf.
12Anghofiwyd fi, fel un marw wedi mynd dros gof;
yr wyf fel llestr wedi torri.
13Oherwydd clywaf lawer yn sibrwd,
y mae dychryn ar bob llaw;
pan ddônt at ei gilydd yn f'erbyn
y maent yn cynllwyn i gymryd fy mywyd.
14Ond yr wyf yn ymddiried ynot ti, ARGLWYDD,
ac yn dweud, “Ti yw fy Nuw.”
15Y mae fy amserau yn dy law di;
gwared fi rhag fy ngelynion a'm herlidwyr.
16Bydded llewyrch dy wyneb ar dy was;
achub fi yn dy ffyddlondeb.
17ARGLWYDD, na fydded cywilydd arnaf pan alwaf arnat;
doed cywilydd ar y drygionus,
rhodder taw arnynt yn Sheol.
18Trawer yn fud y gwefusau celwyddog,
sy'n siarad yn drahaus yn erbyn y cyfiawn
mewn balchder a sarhad.
19Mor helaeth yw dy ddaioni
sydd ynghadw gennyt i'r rhai sy'n dy ofni,
ac wedi ei amlygu i'r rhai sy'n cysgodi ynot,
a hynny yng ngŵydd pawb!
20Fe'u cuddi dan orchudd dy bresenoldeb
rhag y rhai sy'n cynllwyn;
fe'u cedwi dan dy gysgod
rhag ymryson tafodau.
21Bendigedig yw'r ARGLWYDD
a ddangosodd ei ffyddlondeb rhyfeddol ataf
yn nydd cyfyngder.31:21 Tebygol. Hebraeg, mewn dinas warchaeedig.
22Yn fy nychryn fe ddywedais,
“Torrwyd fi allan o'th olwg.”
Ond clywaist lef fy ngweddi
pan waeddais arnat am gymorth.
23Carwch yr ARGLWYDD, ei holl ffyddloniaid.
Y mae'r ARGLWYDD yn cadw'r rhai ffyddlon,
ond yn talu'n llawn i'r rhai balch.
24Byddwch gryf a gwrol eich calon,
yr holl rai sy'n disgwyl wrth yr ARGLWYDD.
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004