No themes applied yet
I Ddafydd.
1Ymryson, O ARGLWYDD, yn erbyn y rhai sy'n ymryson â mi,
ymladd yn erbyn y rhai sy'n ymladd â mi.
2Cydia mewn tarian a bwcled,
a chyfod i'm cynorthwyo.
3Tyn allan y waywffon a'r bicell
yn erbyn y rhai sy'n fy erlid;
dywed wrthyf, “Myfi yw dy waredigaeth.”
4Doed cywilydd a gwarth
ar y rhai sy'n ceisio fy mywyd;
bydded i'r rhai sy'n darparu drwg i mi
droi yn eu holau mewn arswyd.
5Byddant fel us o flaen gwynt,
ac angel yr ARGLWYDD ar eu holau.
6Bydded eu ffordd yn dywyll a llithrig,
ac angel yr ARGLWYDD yn eu hymlid.
7Oherwydd heb achos y maent wedi gosod rhwyd i mi,
ac wedi cloddio pwll ar fy nghyfer.
8Doed distryw yn ddiarwybod arnynt35:8 Felly Groeg a Syrieg. Hebraeg, arno, a gweddill yr adnod yn yr unigol i gyfateb.,
dalier hwy yn y rhwyd a osodwyd ganddynt,
a bydded iddynt hwy eu hunain syrthio i'w distryw.
9Ond llawenhaf fi yn yr ARGLWYDD,
a gorfoleddu yn ei waredigaeth.
10Bydd fy holl esgyrn yn gweiddi,
“Pwy, ARGLWYDD, sydd fel tydi,
yn gwaredu'r tlawd rhag un cryfach nag ef,
y tlawd a'r anghenus rhag un sy'n ei ysbeilio?”
11Fe gyfyd tystion maleisus
i'm holi am bethau nas gwn.
12Talant imi ddrwg am dda,
a gwneud ymgais am35:12 Tebygol. Hebraeg, i amddifadu. fy mywyd.
13A minnau, pan oeddent hwy yn glaf,
oeddwn yn gwisgo sachliain,
yn ymddarostwng mewn ympryd,
yn plygu pen mewn gweddi,
14fel pe dros gyfaill neu frawd imi;
yn mynd o amgylch fel un yn galaru am ei fam,
wedi fy narostwng ac mewn galar.
15Ond pan gwympais i, yr oeddent hwy yn llawen
ac yn tyrru at ei gilydd i'm herbyn—
poenydwyr nad oeddwn yn eu hadnabod
yn fy enllibio heb arbed.
16Pan gloffais i, yr oeddent yn fy ngwatwar,
ac yn ysgyrnygu eu dannedd arnaf.
17O Arglwydd, am ba hyd yr wyt am edrych?
Gwared fi rhag eu dinistr,
a'm hunig fywyd rhag anffyddwyr.
18Yna, diolchaf i ti gerbron y gynulleidfa fawr,
a'th foliannu gerbron tyrfa gref.
19Na fydded i'm gelynion twyllodrus lawenychu o'm hachos,
nac i'r rhai sy'n fy nghasáu heb achos wincio â'u llygaid.
20Oherwydd nid ydynt yn sôn am heddwch;
ond yn erbyn rhai tawel y wlad
y maent yn cynllwyn dichellion.
21Y maent yn agor eu cegau yn f'erbyn
ac yn dweud, “Aha, aha,
yr ydym wedi gweld â'n llygaid!”
22Gwelaist tithau, ARGLWYDD; paid â thewi;
fy Arglwydd, paid â phellhau oddi wrthyf.
23Ymysgwyd a deffro i wneud barn â mi,
i roi dedfryd ar fy achos, fy Nuw a'm Harglwydd.
24Barna fi yn ôl dy gyfiawnder, O ARGLWYDD, fy Nuw,
ac na fydded iddynt lawenhau o'm hachos.
25Na fydded iddynt ddweud ynddynt eu hunain,
“Aha, cawsom ein dymuniad!”
Na fydded iddynt ddweud, “Yr ydym wedi ei lyncu.”
26Doed cywilydd, a gwaradwydd hefyd,
ar y rhai sy'n llawenhau yn fy adfyd;
bydded gwarth ac amarch yn gorchuddio
y rhai sy'n ymddyrchafu yn f'erbyn.
27Bydded i'r rhai sy'n dymuno gweld fy nghyfiawnhau
orfoleddu a llawenhau;
bydded iddynt ddweud yn wastad,
“Mawr yw yr ARGLWYDD sy'n dymuno llwyddiant ei was.”
28Yna, bydd fy nhafod yn cyhoeddi dy gyfiawnder
a'th foliant ar hyd y dydd.
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004