No themes applied yet
I'r Cyfarwyddwr: i Ddafydd, gwas yr ARGLWYDD.
1Llefara pechod wrth y drygionus yn nyfnder ei galon36:1 Felly rhai llawysgrifau a Fersiynau. TM, fy nghalon.;
nid oes ofn Duw ar ei gyfyl.
2Llwydda i'w dwyllo ei hun
na ellir canfod ei ddrygioni i'w gasáu.
3Niwed a thwyll yw ei holl eiriau;
peidiodd ag ymddwyn yn ddoeth ac yn dda.
4Cynllunia ddrygioni yn ei wely;
y mae wedi ymsefydlu yn y ffordd anghywir,
ac nid yw'n gwrthod y drwg.
5Ymestyn dy gariad, ARGLWYDD, hyd y nefoedd,
a'th ffyddlondeb hyd y cymylau;
6y mae dy gyfiawnder fel y mynyddoedd uchel
a'th farnau fel y dyfnder mawr;
cedwi ddyn ac anifail, O ARGLWYDD.
7Mor werthfawr yw dy gariad, O Dduw!
Llochesa pobl dan gysgod dy adenydd.
8Fe'u digonir â llawnder dy dŷ,
a diodi hwy o afon dy gysuron;
9oherwydd gyda thi y mae ffynnon bywyd,
ac yn d'oleuni di y gwelwn oleuni.
10Parha dy gariad at y rhai sy'n d'adnabod
a'th gyfiawnder at y rhai uniawn o galon.
11Na fydded i'r troed balch fy sathru,
nac i'r llaw ddrygionus fy nhroi allan.
12Dyna'r gwneuthurwyr drygioni wedi cwympo,
wedi eu bwrw i'r llawr a heb allu codi!
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004