No themes applied yet
I'r Cyfarwyddwr: i Ddafydd. Salm.
1Bûm yn disgwyl a disgwyl wrth yr ARGLWYDD,
ac yna plygodd ataf a gwrando fy nghri.
2Cododd fi i fyny o'r pwll lleidiog,
allan o'r mwd a'r baw;
gosododd fy nhraed ar graig,
a gwneud fy nghamau'n ddiogel.
3Rhoddodd yn fy ngenau gân newydd,
cân o foliant i'n Duw;
bydd llawer, pan welant hyn, yn ofni
ac yn ymddiried yn yr ARGLWYDD.
4Gwyn ei fyd y sawl
sy'n rhoi ei ymddiriedaeth yn yr ARGLWYDD,
ac nad yw'n troi at y beilchion,
nac at y rhai sy'n dilyn twyll.
5Mor niferus, O ARGLWYDD, fy Nuw,
yw'r rhyfeddodau a wnaethost,
a'th fwriadau ar ein cyfer;
nid oes tebyg i ti!
Dymunwn eu cyhoeddi a'u hadrodd,
ond maent yn rhy niferus i'w rhifo.
6Nid wyt yn dymuno aberth ac offrwm—
rhoddaist imi glustiau agored—
ac nid wyt yn gofyn poethoffrwm ac aberth dros bechod.
7Felly dywedais, “Dyma fi'n dod;
y mae wedi ei ysgrifennu mewn rhol llyfr amdanaf
8fy mod yn hoffi gwneud ewyllys fy Nuw,
a bod dy gyfraith yn fy nghalon.”
9Bûm yn cyhoeddi cyfiawnder yn y gynulleidfa fawr;
nid wyf wedi atal fy ngwefusau,
fel y gwyddost, O ARGLWYDD.
10Ni chuddiais dy gyfiawnder yn fy nghalon,
ond dywedais am dy gadernid a'th waredigaeth;
ni chelais dy gariad a'th wirionedd
rhag y gynulleidfa fawr.
11Paid tithau, ARGLWYDD, ag atal
dy dosturi oddi wrthyf;
bydded dy gariad a'th wirionedd
yn fy nghadw bob amser.
12Oherwydd y mae drygau dirifedi
wedi cau amdanaf;
y mae fy nghamweddau wedi fy nal
fel na allaf weld;
y maent yn fwy niferus na gwallt fy mhen,
ac y mae fy nghalon yn suddo.
13Bydd fodlon i'm gwaredu, ARGLWYDD;
O ARGLWYDD, brysia i'm cynorthwyo.
14Doed cywilydd, a gwaradwydd hefyd,
ar y rhai sy'n ceisio difa fy mywyd;
bydded i'r rhai sy'n cael pleser o wneud drwg imi
gael eu troi yn eu holau mewn dryswch.
15Bydded i'r rhai sy'n gweiddi, “Aha! Aha!” arnaf
gael eu syfrdanu gan eu gwaradwydd.
16Ond bydded i bawb sy'n dy geisio di
lawenhau a gorfoleddu ynot;
bydded i'r rhai sy'n caru dy iachawdwriaeth
ddweud yn wastad, “Mawr yw'r ARGLWYDD.”
17Un tlawd ac anghenus wyf fi,
ond y mae'r Arglwydd yn meddwl amdanaf.
Ti yw fy nghymorth a'm gwaredydd;
fy Nuw, paid ag oedi!
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004