No themes applied yet
I'r Cyfarwyddwr: Salm. I Ddafydd.
1Gwyn ei fyd y sawl sy'n ystyried y tlawd.
Bydd yr ARGLWYDD yn ei waredu yn nydd adfyd;
2bydd yr ARGLWYDD yn ei warchod ac yn ei gadw'n fyw;
bydd yn rhoi iddo ddedwyddwch yn y tir,
ac ni rydd mohono i fympwy ei elynion.
3Bydd yr ARGLWYDD yn ei gynnal ar ei wely cystudd,
ac yn cyweirio'i wely pan fo'n glaf.
4Dywedais innau, “O ARGLWYDD, bydd drugarog wrthyf;
iachâ fi, oherwydd pechais yn d'erbyn.”
5Fe ddywed fy ngelynion yn faleisus amdanaf,
“Pa bryd y bydd farw ac y derfydd ei enw?”
6Pan ddaw un i'm gweld, y mae'n siarad yn rhagrithiol,
ond yn ei galon yn casglu newydd drwg amdanaf,
ac yn mynd allan i'w daenu ar led.
7Y mae'r holl rai sy'n fy nghasáu yn sisial â'i gilydd,
yn meddwl y gwaethaf amdanaf,
8ac yn dweud, “Y mae rhywbeth marwol wedi cydio ynddo;
y mae'n orweiddiog, ac ni chyfyd eto.”
9Y mae hyd yn oed fy nghyfaill agos, y bûm yn ymddiried ynddo,
ac a fu'n bwyta wrth fy mwrdd,
yn codi ei sawdl yn f'erbyn.
10O ARGLWYDD, bydd drugarog wrthyf ac adfer fi,
imi gael talu'n ôl iddynt.
11Wrth hyn y gwn dy fod yn fy hoffi:
na fydd fy ngelyn yn cael gorfoledd o'm plegid.
12Ond byddi di'n fy nghynnal yn fy nghywirdeb,
ac yn fy nghadw yn dy bresenoldeb byth.
13Bendigedig fyddo'r ARGLWYDD, Duw Israel,
o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb.
Amen ac Amen.
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004