No themes applied yet
I'r Cyfarwyddwr: ar Lilïau. I feibion Cora. Mascîl. Cân Serch.
1Symbylwyd fy nghalon gan neges dda;
adroddaf fy nghân am y brenin;
y mae fy nhafod fel pin ysgrifennydd buan.
2Yr wyt yn decach na phawb;
tywalltwyd gras ar dy wefusau
am i Dduw dy fendithio am byth.
3Gwisg dy gleddyf ar dy glun, O ryfelwr;
â mawredd a gogoniant addurna dy forddwyd.
4Marchoga45:4 Tebygol. Hebraeg, O ryfelwr, â mawredd a gogoniant. Mewn gogoniant marchoga'n fuddugoliaethus. o blaid gwirionedd, ac o achos cyfiawnder,
a bydded i'th ddeheulaw ddysgu iti bethau ofnadwy.
5Y mae dy saethau'n llym yng nghalon gelynion y brenin;
syrth pobloedd odanat.
6Y mae dy orsedd fel gorsedd Duw45:6 Neu, Y mae dy orsedd di, O Dduw., yn dragwyddol,
a'th deyrnwialen yn wialen cyfiawnder.
7Ceraist gyfiawnder a chasáu drygioni;
am hynny bu i Dduw, dy Dduw di, dy eneinio
ag olew llawenydd uwchlaw dy gyfoedion.
8Y mae dy ddillad i gyd yn fyrr, aloes a chasia,
ac offerynnau llinynnol o balasau ifori yn dy ddifyrru.
9Y mae tywysogesau ymhlith merched dy lys;
saif y frenhines ar dy ddeheulaw, mewn aur Offir.
10Gwrando di, ferch, rho sylw a gogwydda dy glust:
anghofia dy bobl dy hun a thŷ dy dad;
11yna bydd y brenin yn chwenychu dy brydferthwch,
oherwydd ef yw dy arglwydd.
12Ymostwng iddo45:12 Hebraeg, Ymostwng iddo yn adn. 11. ag anrhegion, O ferch Tyrus,
a bydd cyfoethogion y bobl yn ceisio dy ffafr.
13Cwbl ogoneddus yw merch y brenin,
cwrel wedi45:13 Tebygol. Hebraeg, merch y brenin oddi mewn, wedi. ei osod mewn aur sydd ar ei gwisg,
14ac mewn brodwaith yr arweinir hi at y brenin;
Ar ei hôl daw ei chyfeillesau, y morynion;
15dônt atat yn llawen a hapus,
dônt i mewn i balas y brenin.
16Yn lle dy dadau daw dy feibion,
a gwnei hwy'n dywysogion dros yr holl ddaear.
17Mynegaf dy glod dros y cenedlaethau,
nes bod pobl yn dy ganmol hyd byth.
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004