No themes applied yet
Salm. I Asaff.
1Duw y duwiau, yr ARGLWYDD, a lefarodd;
galwodd y ddaear
o godiad haul hyd ei fachlud.
2O Seion, berffaith ei phrydferthwch,
y llewyrcha Duw.
3Fe ddaw ein Duw, ac ni fydd ddistaw;
bydd tân yn ysu o'i flaen,
a thymestl fawr o'i gwmpas.
4Y mae'n galw ar y nefoedd uchod,
ac ar y ddaear, er mwyn barnu ei bobl:
5“Casglwch ataf fy ffyddloniaid,
a wnaeth gyfamod â mi trwy aberth.”
6Bydd y nefoedd yn cyhoeddi ei gyfiawnder,
oherwydd Duw ei hun sydd farnwr.
Sela
7“Gwrandewch, fy mhobl, a llefaraf;
dygaf dystiolaeth yn dy erbyn, O Israel;
myfi yw Duw, dy Dduw di.
8Ni cheryddaf di am dy aberthau,
oherwydd y mae dy boethoffrymau'n wastad ger fy mron.
9Ni chymeraf fustach o'th dŷ,
na bychod geifr o'th gorlannau;
10oherwydd eiddof fi holl fwystfilod y goedwig,
a'r gwartheg ar fil o fryniau.
11Yr wyf yn adnabod holl adar yr awyr50:11 Felly Fersiynau. Hebraeg, y mynyddoedd.,
ac eiddof fi holl greaduriaid y maes.
12Pe bawn yn newynu, ni ddywedwn wrthyt ti,
oherwydd eiddof fi'r byd a'r hyn sydd ynddo.
13A fwytâf fi gig eich teirw,
neu yfed gwaed eich bychod geifr?
14Rhowch i Dduw offrymau diolch,
a thalwch eich addunedau i'r Goruchaf.
15Os gelwi arnaf yn nydd cyfyngder
fe'th waredaf, a byddi'n fy anrhydeddu.”
16Ond wrth y drygionus fe ddywed Duw,
“Pa hawl sydd gennyt i adrodd fy neddfau,
ac i gymryd fy nghyfamod ar dy wefusau?
17Yr wyt yn casáu disgyblaeth
ac yn bwrw fy ngeiriau o'th ôl.
18Os gweli leidr, fe ei i'w ganlyn,
a bwrw dy goel gyda godinebwyr.
19Y mae dy enau'n ymollwng i ddrygioni,
a'th dafod yn nyddu twyll.
20Yr wyt yn parhau i dystio yn erbyn dy frawd,
ac yn enllibio mab dy fam.
21Gwnaethost y pethau hyn, bûm innau ddistaw;
tybiaist dithau fy mod fel ti dy hun,
ond ceryddaf di, a dwyn achos yn dy erbyn.
22“Ystyriwch hyn, chwi sy'n anghofio Duw,
rhag imi eich darnio heb neb i arbed.
23Y sawl sy'n cyflwyno offrymau diolch sy'n fy anrhydeddu,
ac i'r sawl sy'n dilyn fy ffordd y dangosaf iachawdwriaeth Duw.”
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004