No themes applied yet
I'r Cyfarwyddwr: Salm. I Ddafydd, pan ddaeth y proffwyd Nathan ato wedi iddo fynd at Bathseba.
1Bydd drugarog wrthyf, O Dduw, yn ôl dy ffyddlondeb;
yn ôl dy fawr dosturi dilea fy nhroseddau;
2golch fi'n lân o'm drygioni,
a glanha fi o'm pechod.
3Oherwydd gwn am fy nhroseddau,
ac y mae fy mhechod yn wastad gyda mi.
4Yn dy erbyn di, ti yn unig, y pechais
a gwneud yr hyn a ystyri'n ddrwg,
fel dy fod yn gyfiawn yn dy ddedfryd,
ac yn gywir yn dy farn.
5Wele, mewn drygioni y'm ganwyd,
ac mewn pechod y beichiogodd fy mam.
6Wele, yr wyt yn dymuno gwirionedd oddi mewn;
felly dysg imi ddoethineb yn y galon.
7Pura fi ag isop fel y byddaf lân;
golch fi fel y byddaf wynnach nag eira.
8Pâr imi glywed gorfoledd a llawenydd,
fel y bo i'r esgyrn a ddrylliaist lawenhau.
9Cuddia dy wyneb oddi wrth fy mhechodau,
a dilea fy holl euogrwydd.
10Crea galon lân ynof, O Dduw,
rho ysbryd newydd cadarn ynof.
11Paid â'm bwrw ymaith oddi wrthyt,
na chymryd dy ysbryd sanctaidd oddi arnaf.
12Dyro imi eto orfoledd dy iachawdwriaeth,
a chynysgaedda fi ag ysbryd ufudd.
13Dysgaf dy ffyrdd i droseddwyr,
fel y dychwelo'r pechaduriaid atat.
14Gwared fi rhag gwaed, O Dduw,
Duw fy iachawdwriaeth,
ac fe gân fy nhafod am dy gyfiawnder.
15Arglwydd, agor fy ngwefusau,
a bydd fy ngenau yn mynegi dy foliant.
16Oherwydd nid wyt yn ymhyfrydu mewn aberth;
pe dygwn boethoffrymau, ni fyddit fodlon.
17Aberthau Duw yw ysbryd drylliedig;
calon ddrylliedig a churiedig
ni ddirmygi, O Dduw.
18Gwna ddaioni i Seion yn dy ras;
adeilada furiau Jerwsalem.
19Yna fe ymhyfrydi mewn aberthau cywir—
poethoffrwm ac aberth llosg—
yna fe aberthir bustych ar dy allor.
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004