No themes applied yet
I'r Cyfarwyddwr: ar Mahalath. Mascîl. I Ddafydd.
1Dywed yr ynfyd yn ei galon,
“Nid oes Duw.”
Gwnânt weithredoedd llygredig a ffiaidd;
nid oes un a wna ddaioni.
2Edrychodd yr ARGLWYDD o'r nefoedd
ar ddynolryw,
i weld a oes rhywun yn gwneud yn ddoeth
ac yn ceisio Duw.
3Ond y mae pawb ar gyfeiliorn,
ac mor llygredig â'i gilydd;
nid oes un a wna ddaioni,
nac oes, dim un.
4Oni ddarostyngir y gwneuthurwyr drygioni
sy'n llyncu fy mhobl fel llyncu bwyd,
ac sydd heb alw ar yr ARGLWYDD?
5Yno y byddant mewn dychryn mawr,
dychryn na fu ei debyg.
Y mae Duw yn gwasgaru esgyrn yr annuwiol53:5 Tebygol. Cymh. Groeg. Hebraeg, esgyrn dy wersyllwr.;
daw cywilydd arnynt am i Dduw eu gwrthod.
6O na ddôi gwaredigaeth i Israel o Seion!
Pan adfer yr ARGLWYDD lwyddiant i'w bobl,
fe lawenha Jacob, fe orfoledda Israel.
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004