No themes applied yet
I'r Cyfarwyddwr: ar Na Ddinistria. Michtam. I Ddafydd, pan ddihangodd rhag Saul yn yr ogof.
1Bydd drugarog wrthyf, O Dduw, bydd drugarog wrthyf,
oherwydd ynot ti yr wyf yn llochesu;
yng nghysgod dy adenydd y mae fy lloches
nes i'r stormydd fynd heibio.
2Galwaf ar y Duw Goruchaf,
ar y Duw sy'n gweithredu drosof.
3Bydd yn anfon o'r nefoedd i'm gwaredu;
bydd yn cywilyddio'r rhai sy'n gwasgu arnaf;
Sela
bydd Duw yn anfon ei gariad a'i wirionedd.
4Yr wyf yn byw yng nghanol llewod,
rhai sy'n traflyncu pobl,
a'u dannedd yn bicellau a saethau,
a'u tafod yn gleddyf miniog.
5Ymddyrchafa'n uwch na'r nefoedd, O Dduw,
a bydded dy ogoniant dros yr holl ddaear.
6Y maent wedi gosod rhwyd i'm traed,
ac wedi darostwng fy mywyd;
y maent wedi cloddio pwll ar fy nghyfer,
ond hwy eu hunain fydd yn syrthio iddo.
Sela
7Y mae fy nghalon yn gadarn, O Dduw,
y mae fy nghalon yn gadarn;
fe ganaf a rhoi mawl.
8Deffro, fy enaid,
deffro di, nabl a thelyn.
Fe ddeffroaf ar doriad gwawr.
9Rhof ddiolch i ti, O Arglwydd, ymysg y bobloedd,
a chanmolaf di ymysg y cenhedloedd,
10oherwydd y mae dy gariad yn ymestyn hyd y nefoedd,
a'th wirionedd hyd y cymylau.
11Ymddyrchafa'n uwch na'r nefoedd, O Dduw,
a bydded dy ogoniant dros yr holl ddaear.
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004