No themes applied yet
I'r Cyfarwyddwr: ag offerynnau llinynnol. Salm. Cân.
1Bydded Duw yn drugarog wrthym a'n bendithio,
bydded llewyrch ei wyneb arnom,
Sela
2er mwyn i'w67:2 Felly llawysgrifau a Syrieg. TM, i'th. ffyrdd fod yn wybyddus ar y ddaear,
a'i67:2 Felly Syrieg. Hebraeg, a'th. waredigaeth ymysg yr holl genhedloedd.
3Bydded i'r bobloedd dy foli, O Dduw,
bydded i'r holl bobloedd dy foli di.
4Bydded i'r cenhedloedd lawenhau a gorfoleddu,
oherwydd yr wyt ti'n barnu pobloedd yn gywir,
ac yn arwain cenhedloedd ar y ddaear.
Sela
5Bydded i'r bobloedd dy foli, O Dduw,
bydded i'r holl bobloedd dy foli di.
6Rhoes y ddaear ei chnwd;
Duw, ein Duw ni, a'n bendithiodd.
7Bendithiodd Duw ni;
bydded holl gyrrau'r ddaear yn ei ofni.
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004