No themes applied yet
Siggaion. I Ddafydd, a ganodd i'r ARGLWYDD ynglŷn â Cus o Benjamin.
1O ARGLWYDD fy Nuw, ynot ti y llochesaf;
gwared fi rhag fy holl erlidwyr, ac arbed fi,
2rhag iddynt fy llarpio fel llew,
a'm darnio heb neb i'm gwaredu.
3O ARGLWYDD fy Nuw, os gwneuthum hyn—
os oes twyll ar fy nwylo,
4os telais ddrwg am dda i'm cyfaill,
ac ysbeilio fy ngwrthwynebwr heb achos—
5bydded i'm gelyn fy erlid a'm dal,
bydded iddo sathru fy einioes i'r ddaear,
a gosod f'anrhydedd yn y llwch.
Sela
6Saf i fyny, O ARGLWYDD, yn dy ddig;
cyfod yn erbyn llid fy ngelynion;
deffro, fy Nuw, i drefnu barn.
7Bydded i'r bobloedd ymgynnull o'th amgylch;
eistedd dithau'n oruchel uwch eu pennau.
8O ARGLWYDD, sy'n barnu pobloedd,
barna fi yn ôl fy nghyfiawnder, O ARGLWYDD,
ac yn ôl y cywirdeb sydd ynof.
9Bydded diwedd ar ddrygioni'r drygionus,
ond cadarnha di y cyfiawn,
ti sy'n profi meddyliau a chalonnau,
ti Dduw cyfiawn.
10Duw yw fy nharian,
ef sy'n gwaredu'r cywir o galon.
11Duw sydd farnwr cyfiawn,
a Duw sy'n dedfrydu bob amser.
12Yn wir, y mae'r drygionus7:12 Hebraeg, y mae ef. yn hogi ei gleddyf eto,
yn plygu ei fwa ac yn ei wneud yn barod;
13y mae'n darparu ei arfau marwol,
ac yn gwneud ei saethau'n danllyd.
14Y mae'n feichiog o ddrygioni,
yn cenhedlu niwed ac yn geni twyll.
15Y mae'n cloddio pwll ac yn ei geibio,
ac yn syrthio i'r twll a wnaeth.
16Fe ddychwel ei niwed arno ef ei hun,
ac ar ei ben ef y disgyn ei drais.
17Diolchaf i'r ARGLWYDD am ei gyfiawnder,
a chanaf fawl i enw'r ARGLWYDD Goruchaf.
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004