No themes applied yet
Cân. Salm. I Asaff.
1O Dduw, paid â bod yn ddistaw;
paid â thewi nac ymdawelu, O Dduw.
2Edrych fel y mae dy elynion yn terfysgu,
a'r rhai sy'n dy gasáu yn codi eu pennau.
3Gwnânt gynlluniau cyfrwys yn erbyn dy bobl,
a gosod cynllwyn yn erbyn y rhai a amddiffynni,
4a dweud, “Dewch, inni eu difetha fel cenedl,
fel na chofir enw Israel mwyach.”
5Cytunasant yn unfryd â'i gilydd,
a gwneud cynghrair i'th erbyn—
6pebyll Edom a'r Ismaeliaid,
Moab a'r Hagariaid,
7Gebal, Ammon ac Amalec,
Philistia a thrigolion Tyrus;
8Asyria hefyd a unodd gyda hwy,
a chynnal breichiau tylwyth Lot.
Sela
9Gwna iddynt fel y gwnaethost i Sisera,
ac i Jabin wrth nant Cison,
10ac i Midian83:10 Hebraeg, ac i Midian yn yr adn. flaenorol., a ddinistriwyd wrth ffynnon Harod83:10 Hebraeg, Endor.
a mynd yn dom ar y ddaear.
11Gwna eu mawrion fel Oreb a Seeb
a'u holl dywysogion fel Seba a Salmunna,
12y rhai a ddywedodd, “Meddiannwn i ni ein hunain
holl borfeydd Duw.”
13O fy Nuw, gwna hwy fel hadau hedegog,
fel us o flaen gwynt.
14Fel tân yn difa coedwig,
fel fflamau'n llosgi mynydd,
15felly yr ymlidi hwy â'th storm,
a'u brawychu â'th gorwynt.
16Gwna eu hwynebau'n llawn cywilydd,
er mwyn iddynt geisio dy enw, O ARGLWYDD.
17Bydded iddynt aros mewn gwarth a chywilydd am byth,
ac mewn gwaradwydd difether hwy.
18Bydded iddynt wybod mai ti yn unig, a'th enw'n ARGLWYDD,
yw'r Goruchaf dros yr holl ddaear.
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004