No themes applied yet
Gweddi. I Ddafydd.
1Tro dy glust ataf, ARGLWYDD, ac ateb fi,
oherwydd tlawd ac anghenus ydwyf.
2Arbed fy mywyd, oherwydd teyrngar wyf fi;
gwared dy was sy'n ymddiried ynot.
3Ti yw fy Nuw;86:3 Hebraeg, Ti yw fy Nuw yn yr adn. flaenorol. bydd drugarog wrthyf, O Arglwydd,
oherwydd arnat ti y gwaeddaf trwy'r dydd.
4Llawenha enaid dy was,
oherwydd atat ti, Arglwydd, y dyrchafaf fy enaid.
5Yr wyt ti, Arglwydd, yn dda a maddeugar,
ac yn llawn trugaredd i bawb sy'n galw arnat.
6Clyw, O ARGLWYDD, fy ngweddi,
a gwrando ar fy ymbil.
7Yn nydd fy nghyfyngder galwaf arnat,
oherwydd yr wyt ti yn fy ateb.
8Nid oes neb fel ti ymhlith y duwiau, O Arglwydd,
ac nid oes gweithredoedd fel dy rai di.
9Bydd yr holl genhedloedd a wnaethost yn dod
ac yn ymgrymu o'th flaen, O Arglwydd,
ac yn anrhydeddu dy enw.
10Oherwydd yr wyt ti yn fawr ac yn gwneud rhyfeddodau;
ti yn unig sydd Dduw.
11O ARGLWYDD, dysg i mi dy ffordd,
imi rodio yn dy wirionedd;
rho imi galon unplyg i ofni dy enw.
12Clodforaf di â'm holl galon, O Arglwydd fy Nuw,
ac anrhydeddaf dy enw hyd byth.
13Oherwydd mawr yw dy ffyddlondeb tuag ataf,
a gwaredaist fy mywyd o Sheol isod.
14O Dduw, cododd gwŷr trahaus yn f'erbyn,
ac y mae criw didostur yn ceisio fy mywyd,
ac nid ydynt yn meddwl amdanat ti.
15Ond yr wyt ti, O Arglwydd, yn Dduw trugarog a graslon,
araf i ddigio, a llawn cariad a gwirionedd.
16Tro ataf, a bydd drugarog,
rho dy nerth i'th was,
a gwared un o hil dy weision.
17Rho imi arwydd o'th ddaioni,
a bydded i'r rhai sy'n fy nghasáu weld a chywilyddio,
am i ti, ARGLWYDD, fy nghynorthwyo a'm cysuro.
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004