No themes applied yet
Cân. Salm. I feibion Cora. I'r Cyfarwyddwr: ar Mahalath Leannoth. Mascîl. I Heman yr Esrahead.
1O ARGLWYDD, Duw fy iachawdwriaeth,
liw dydd galwaf arnat,
gyda'r nos deuaf atat.
2Doed fy ngweddi hyd atat,
tro dy glust at fy llef.
3Yr wyf yn llawn helbulon,
ac y mae fy mywyd yn ymyl Sheol.
4Ystyriwyd fi gyda'r rhai sy'n disgyn i'r pwll,
ac euthum fel un heb nerth,
5fel un wedi ei adael gyda'r meirw,
fel y lladdedigion sy'n gorffwys mewn bedd—
rhai nad wyt yn eu cofio bellach
am eu bod wedi eu torri ymaith o'th afael.
6Gosodaist fi yn y pwll isod,
yn y mannau tywyll a'r dyfnderau.
7Daeth dy ddigofaint yn drwm arnaf,
a llethaist fi â'th holl donnau.
Sela
8Gwnaethost i'm cydnabod bellhau oddi wrthyf,
a'm gwneud yn ffiaidd iddynt.
Yr wyf wedi fy nghaethiwo ac ni allaf ddianc;
9y mae fy llygaid yn pylu gan gystudd.
Galwaf arnat ti bob dydd, O ARGLWYDD,
ac y mae fy nwylo'n ymestyn atat.
10A wnei di ryfeddodau i'r meirw?
A yw'r cysgodion yn codi i'th foliannu?
Sela
11A fynegir dy gariad yn y bedd,
a'th wirionedd yn nhir Abadon?
12A yw dy ryfeddodau'n wybyddus yn y tywyllwch,
a'th fuddugoliaethau yn nhir angof?
13Ond yr wyf fi yn llefain arnat ti am gymorth, O ARGLWYDD,
ac yn y bore daw fy ngweddi atat.
14O ARGLWYDD, pam yr wyt yn fy ngwrthod,
ac yn cuddio dy wyneb oddi wrthyf?
15Anghenus wyf, ac ar drengi o'm hieuenctid;
dioddefais dy ddychrynfeydd, ac yr wyf mewn dryswch.
16Aeth dy ddigofaint drosof,
ac y mae dy ymosodiadau yn fy nifetha.
17Y maent yn f'amgylchu fel llif trwy'r dydd,
ac yn cau'n gyfan gwbl amdanaf.
18Gwnaethost i gâr a chyfaill bellhau oddi wrthyf,
a thywyllwch yw fy nghydnabod.
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004