No themes applied yet
Mascîl. I Ethan yr Esrahead.
1Canaf byth am dy gariad, O ARGLWYDD,89:1 Felly Fersiynau. Hebraeg, am gariad yr ARGLWYDD.
ac â'm genau mynegaf dy ffyddlondeb dros y cenedlaethau;
2oherwydd y mae dy gariad wedi ei sefydlu dros byth,
a'th ffyddlondeb mor sicr â'r nefoedd.
3Dywedaist89:3 Felly Fersiynau. Hebraeg, dywedais yn yr adn. flaenorol., “Gwneuthum gyfamod â'm hetholedig,
a thyngu wrth Ddafydd fy ngwas,
4‘Gwnaf dy had yn sefydlog am byth,
a sicrhau dy orsedd dros y cenedlaethau.’ ”
Sela
5Bydded i'r nefoedd foliannu dy ryfeddodau, O ARGLWYDD,
a'th ffyddlondeb yng nghynulliad y rhai sanctaidd.
6Oherwydd pwy yn y nefoedd a gymherir â'r ARGLWYDD?
Pwy ymysg y duwiau sy'n debyg i'r ARGLWYDD,
7yn Dduw a ofnir yng nghyngor y rhai sanctaidd,
yn fawr ac ofnadwy goruwch pawb o'i amgylch?
8O ARGLWYDD Dduw y lluoedd,
pwy sydd nerthol fel tydi, O ARGLWYDD,
gyda'th ffyddlondeb o'th amgylch?
9Ti sy'n llywodraethu ymchwydd y môr;
pan gyfyd ei donnau, yr wyt ti'n eu gostegu.
10Ti a ddrylliodd Rahab yn gelain;
gwasgeraist dy elynion â nerth dy fraich.
11Eiddot ti yw'r nefoedd, a'r ddaear hefyd;
ti a seiliodd y byd a'r cyfan sydd ynddo.
12Ti a greodd ogledd a de;
y mae Tabor a Hermon yn moliannu dy enw.
13Y mae gennyt ti fraich nerthol;
y mae dy law yn gref, dy ddeheulaw wedi ei chodi.
14Cyfiawnder a barn yw sylfaen dy orsedd;
y mae cariad a gwirionedd yn mynd o'th flaen.
15Gwyn eu byd y bobl sydd wedi dysgu dy glodfori,
sy'n rhodio, ARGLWYDD, yng ngoleuni dy wyneb,
16sy'n gorfoleddu bob amser yn dy enw,
ac yn llawenhau yn dy gyfiawnder.
17Oherwydd ti yw gogoniant eu nerth,
a thrwy dy ffafr di y dyrchefir ein corn.
18Oherwydd y mae ein tarian yn eiddo i'r ARGLWYDD,
a'n brenin i Sanct Israel.
19Gynt lleferaist mewn gweledigaeth
wrth dy ffyddloniaid a dweud,
“Gosodais goron89:19 Tebygol. Cymh. adn. 39. Hebraeg, Gosodais gymorth. ar un grymus,
a dyrchafu un a ddewiswyd o blith y bobl.
20Cefais Ddafydd, fy ngwas,
a'i eneinio â'm holew sanctaidd;
21bydd fy llaw yn gadarn gydag ef,
a'm braich yn ei gryfhau.
22Ni fydd gelyn yn drech nag ef,
na'r drygionus yn ei ddarostwng.
23Drylliaf ei elynion o'i flaen,
a thrawaf y rhai sy'n ei gasáu.
24Bydd fy ffyddlondeb a'm cariad gydag ef,
ac yn fy enw i y dyrchefir ei gorn.
25Gosodaf ei law ar y môr,
a'i ddeheulaw ar yr afonydd.
26Bydd yntau'n galw arnaf, ‘Fy nhad wyt ti,
fy Nuw a chraig fy iachawdwriaeth.’
27A gwnaf finnau ef yn gyntafanedig,
yn uchaf o frenhinoedd y ddaear.
28Cadwaf fy ffyddlondeb iddo hyd byth,
a bydd fy nghyfamod ag ef yn sefydlog.
29Rhof iddo linach am byth,
a'i orsedd fel dyddiau'r nefoedd.
30Os bydd ei feibion yn gadael fy nghyfraith,
a heb rodio yn fy marnau,
31os byddant yn torri fy ordeiniadau,
a heb gadw fy ngorchmynion,
32fe gosbaf eu pechodau â gwialen,
a'u camweddau â fflangellau;
33ond ni throf fy nghariad oddi wrtho,
na phallu yn fy ffyddlondeb.
34Ni thorraf fy nghyfamod,
na newid gair a aeth o'm genau.
35Unwaith am byth y tyngais i'm sancteiddrwydd,
ac ni fyddaf yn twyllo Dafydd.
36Fe barha ei linach am byth,
a'i orsedd cyhyd â'r haul o'm blaen.
37Bydd wedi ei sefydlu am byth fel y lleuad,
yn dyst ffyddlon yn y nef.”
Sela
38Ond eto yr wyt wedi gwrthod, a throi heibio,
a digio wrth dy eneiniog.
39Yr wyt wedi dileu'r cyfamod â'th was,
wedi halogi ei goron a'i thaflu i'r llawr.
40Yr wyt wedi dryllio ei holl furiau,
a gwneud ei geyrydd yn adfeilion.
41Y mae pawb sy'n mynd heibio yn ei ysbeilio;
aeth yn warth i'w gymdogion.
42Dyrchefaist ddeheulaw ei wrthwynebwyr,
a gwneud i'w holl elynion lawenhau.
43Yn wir, troist yn ôl fin ei gleddyf,
a pheidio â'i gynnal yn y frwydr.
44Drylliaist ei deyrnwialen o'i law89:44 Tebygol. Hebraeg, Rhoddaist derfyn ar ei ddisgleirdeb.,
a bwrw ei orsedd i'r llawr.
45Yr wyt wedi byrhau dyddiau ei ieuenctid,
ac wedi ei orchuddio â chywilydd.
Sela
46Am ba hyd, ARGLWYDD? A fyddi'n ymguddio am byth,
a'th eiddigedd yn llosgi fel tân?
47Cofia mor feidrol ydwyf fi;
ai yn ofer y creaist yr holl bobloedd?
48Pwy fydd byw heb weld marwolaeth?
Pwy a arbed ei fywyd o afael Sheol?
Sela
49O Arglwydd, ple mae dy gariad gynt,
a dyngaist yn dy ffyddlondeb i Ddafydd?
50Cofia, O Arglwydd, ddirmyg dy was89:50 Felly rhai llawysgrifau a Groeg. TM, weision.,
fel yr wyf yn cario yn fy mynwes sarhad89:50 Felly Fersiynau. Hebraeg, holl fawrion. y bobloedd,
51fel y bu i'th elynion, ARGLWYDD, ddirmygu
a gwawdio camre dy eneiniog.
52Bendigedig fyddo'r ARGLWYDD am byth!
Amen ac Amen.
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004