No themes applied yet
I'r Cyfarwyddwr: ar Muth-labben. Salm. I Ddafydd.
1Diolchaf i ti, ARGLWYDD, â'm holl galon,
adroddaf am dy ryfeddodau.
2Llawenhaf a gorfoleddaf ynot ti,
canaf fawl i'th enw, y Goruchaf.
3Pan dry fy ngelynion yn eu holau,
baglant a threngi o'th flaen.
4Gwnaethost yn deg â mi yn fy achos,
ac eistedd ar dy orsedd yn farnwr cyfiawn.
5Ceryddaist y cenhedloedd a difetha'r drygionus,
a dileaist eu henw am byth.
6Darfu am y gelyn mewn adfeilion bythol;
yr wyt wedi chwalu eu dinasoedd,
a diflannodd y cof amdanynt.
7Ond y mae'r ARGLWYDD wedi ei orseddu am byth,
ac wedi paratoi ei orsedd i farn.
8Fe farna'r byd mewn cyfiawnder,
a gwrando achos y bobloedd yn deg.
9Bydded yr ARGLWYDD yn amddiffynfa i'r gorthrymedig,
yn amddiffynfa yn amser cyfyngder,
10fel y bydd i'r rhai sy'n cydnabod dy enw ymddiried ynot;
oherwydd ni adewaist, ARGLWYDD, y rhai sy'n dy geisio.
11Canwch fawl i'r ARGLWYDD sy'n trigo yn Seion,
cyhoeddwch ei weithredoedd ymysg y bobloedd.
12Fe gofia'r dialydd gwaed amdanynt;
nid yw'n anghofio gwaedd yr anghenus.
13Bydd drugarog wrthyf, O ARGLWYDD, sy'n fy nyrchafu o byrth angau;
edrych ar fy adfyd oddi ar law y rhai sy'n fy nghasáu,
14imi gael adrodd dy holl fawl
a llawenhau yn dy waredigaeth ym mhyrth merch Seion.
15Suddodd y cenhedloedd i'r pwll a wnaethant eu hunain,
daliwyd eu traed yn y rhwyd yr oeddent hwy wedi ei chuddio.
16Datguddiodd yr ARGLWYDD ei hun, gwnaeth farn;
maglwyd y drygionus gan waith ei ddwylo'i hun.
Higgaion. Sela
17Bydded i'r drygionus ddychwelyd i Sheol,
a'r holl genhedloedd sy'n anghofio Duw.
18Oherwydd nid anghofir y tlawd am byth,
ac ni ddryllir gobaith yr anghenus yn barhaus.
19Cyfod, ARGLWYDD; na threched meidrolion,
ond doed y cenhedloedd i farn o'th flaen.
20Rho arswyd ynddynt, ARGLWYDD,
a bydded i'r cenhedloedd wybod mai meidrol ydynt.
Sela
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004