No themes applied yet
Y Ddau Dyst
1Rhoddwyd imi wialen yn ffon fesur, a dywedwyd wrthyf: “Cod a mesura deml Duw a'r allor a'r addolwyr ynddi. 2Ond anwybydda gyntedd allanol y deml; paid â mesur hwnnw, oherwydd fe'i rhoddwyd i'r Cenhedloedd, ac fe sathrant hwy'r ddinas sanctaidd am ddeufis a deugain. 3Ac fe roddaf i'm dau dyst gennad i broffwydo mewn gwisg sachliain am y deuddeg cant a thrigain hyn o ddyddiau.” 4Dyma'r ddwy olewydden a'r ddau ganhwyllbren sy'n sefyll gerbron Arglwydd y ddaear. 5Os myn unrhyw un wneud niwed iddynt, daw tân allan o'u genau a difa'u gelynion; yn y modd hwn y bydd yn rhaid lladd unrhyw un a fyn wneud niwed iddynt. 6Y mae gan y rhain awdurdod i gau'r nefoedd fel na bydd i law syrthio yn ystod dyddiau eu proffwydo, ac y mae ganddynt awdurdod ar y dyfroedd i'w troi'n waed ac i daro'r ddaear â phob pla mor aml ag y mynnant. 7Wedi iddynt orffen eu tystiolaeth, bydd y bwystfil sy'n codi o'r dyfnder yn rhyfela yn eu herbyn, yn eu gorchfygu a'u lladd. 8Bydd eu cyrff yn strydoedd y ddinas fawr a elwir yn ffigurol yn Sodom a'r Aifft; yno hefyd y croeshoeliwyd eu Harglwydd. 9Am dri diwrnod a hanner, bydd rhai o blith pobloedd a llwythau ac ieithoedd a chenhedloedd yn edrych ar eu cyrff ac yn gwrthod eu rhoi mewn bedd. 10A llawenha trigolion y ddaear trostynt a gorfoleddant, gan anfon rhoddion i'w gilydd; oherwydd bu'r ddau broffwyd hyn yn boenedigaeth i drigolion y ddaear. 11Ond wedi'r tri diwrnod a hanner, daeth anadl einioes oddi wrth Dduw i mewn iddynt; safasant ar eu traed, a daeth ofn mawr ar y rhai oedd yn eu gwylio. 12Yna clywsant lais uchel o'r nef yn dweud wrthynt, “Dewch i fyny yma.” Ac aethant i fyny i'r nef mewn cwmwl, a'u gelynion yn eu gwylio. 13Yr awr honno bu daeargryn mawr, a syrthiodd y ddegfed ran o'r ddinas. Lladdwyd saith mil o bobl yn y daeargryn, a brawychwyd y gweddill a rhoesant ogoniant i Dduw'r nef.
14Aeth yr ail wae heibio; wele'r trydydd gwae yn dod ar fyrder.
Y Seithfed Utgorn
15Seiniodd y seithfed angel ei utgorn. Yna bu lleisiau uchel yn y nef yn dweud:
“Aeth brenhiniaeth y byd yn eiddo ein Harglwydd ni a'i Grist ef,
a bydd yn teyrnasu byth bythoedd.”
16A dyma'r pedwar henuriad ar hugain, sy'n eistedd ar eu gorseddau gerbron Duw, yn syrthio ar eu hwynebau ac yn addoli Duw 17gan ddweud:
“Yr ydym yn diolch i ti, O Arglwydd Dduw hollalluog,
yr hwn sydd a'r hwn oedd,
am iti feddiannu dy allu mawr
a dechrau teyrnasu.
18Llidiodd y cenhedloedd,
a daeth dy ddigofaint
ac amser barnu'r meirw,
a rhoi eu gwobr i'th weision y proffwydi,
ac i'r saint ac i'r rhai sy'n ofni dy enw,
yn fach a mawr,
yr amser i ddinistrio'r rhai sy'n dinistrio'r ddaear.”
19Agorwyd teml Duw yn y nef, a gwelwyd arch ei gyfamod yn ei deml ef; yna bu fflachiadau mellt a sŵn taranau a daeargryn a chenllysg mawr.
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004