No themes applied yet
Cân y 144,000
1Edrychais, ac wele'r Oen yn sefyll ar Fynydd Seion, a chydag ef gant pedwar deg a phedair o filoedd, a'i enw ef ac enw ei Dad wedi eu hysgrifennu ar eu talcennau. 2Clywais lais o'r nef fel sŵn llawer o ddyfroedd ac fel sŵn taran fawr. Yr oedd y llais a glywais fel sain telynorion yn canu eu telynau. 3Yr oeddent yn canu cân newydd gerbron yr orsedd a cherbron y pedwar creadur byw a'r henuriaid; ni allai neb ddysgu'r gân ond y cant pedwar deg a phedair o filoedd, y rhai oedd wedi eu prynu oddi ar y ddaear. 4Dyma'r rhai sydd heb eu halogi eu hunain â merched, oherwydd diwair ydynt. Dyma'r rhai sy'n dilyn yr Oen i ble bynnag yr â. Prynwyd hwy o blith y ddynoliaeth, yn flaenffrwyth i Dduw ac i'r Oen; 5ni chafwyd celwydd yn eu genau; y maent yn ddi-fai.
Negesau'r Tri Angel
6Yna gwelais angel arall yn hedfan yng nghanol y nef, a chanddo efengyl dragwyddol i'w chyhoeddi i breswylwyr y ddaear ac i bob cenedl a llwyth ac iaith a phobl. 7Dywedodd â llais uchel, “Ofnwch Dduw, a rhowch iddo ogoniant, oherwydd daeth yr awr iddo farnu. Addolwch yr hwn a wnaeth nef a daear, y môr a ffynhonnau'r dyfroedd.”
8Dilynodd angel arall, yr ail, a dweud, “Syrthiodd, syrthiodd Babilon fawr, y ddinas honno sydd wedi peri i'r holl genhedloedd yfed gwin llid ei phuteindra.”
9Dilynodd angel arall hwy, y trydydd, a dweud â llais uchel, “Pwy bynnag sy'n addoli'r bwystfil a'i ddelw, ac yn derbyn nod ar ei dalcen neu ar ei law, 10caiff yfed gwin llid Duw, wedi ei arllwys yn ei lawn gryfder i gwpan ei ddigofaint, a chaiff ei boenydio mewn tân a brwmstan gerbron angylion sanctaidd a cherbron yr Oen. 11Bydd mwg eu poenedigaeth yn codi byth bythoedd, ac ni bydd gorffwys na dydd na nos i'r rhai sy'n addoli'r bwystfil a'i ddelw, nac i'r rhai sy'n derbyn nod ei enw ef.” 12Yma y mae angen dyfalbarhad y saint, y rhai sy'n cadw gorchmynion Duw a'u ffydd yn Iesu.
13Yna clywais lais o'r nef yn dweud, “Ysgrifenna: ‘O hyn allan gwyn eu byd y meirw sy'n marw yn yr Arglwydd.’ ‘Ie,’ medd yr Ysbryd, ‘cânt orffwys o'u llafur, oherwydd y mae eu gweithredoedd yn eu canlyn hwy.’ ”
Cynhaeaf y Ddaear
14Yna edrychais, ac wele gwmwl gwyn, ac yn eistedd ar y cwmwl un fel mab dyn, a chanddo goron aur ar ei ben a chryman miniog yn ei law. 15Daeth angel arall allan o'r deml, yn galw â llais uchel ar yr hwn oedd yn eistedd ar y cwmwl, “Bwrw dy gryman i'r fedel, oherwydd daeth yr awr i fedi; y mae cynhaeaf y ddaear yn aeddfed.” 16A dyma'r hwn oedd yn eistedd ar y cwmwl yn bwrw ei gryman i'r ddaear, a medwyd y ddaear.
17Daeth angel arall allan o'r deml yn y nef, a chanddo yntau gryman miniog. 18A daeth angel arall allan o'r allor, ac yr oedd gan hwn awdurdod ar y tân. Galwodd â llais uchel ar yr hwn yr oedd y cryman miniog ganddo. “Bwrw dy gryman miniog,” meddai, “a chasgla rawnsypiau gwinwydden y ddaear, oherwydd aeddfedodd ei grawnwin.” 19A dyma'r angel yn bwrw ei gryman i'r ddaear, yn casglu ffrwyth gwinwydden y ddaear ac yn ei daflu i winwryf mawr digofaint Duw. 20Sathrwyd y gwinwryf y tu allan i'r ddinas, a llifodd gwaed o'r gwinwryf nes cyrraedd at ffrwynau'r ceffylau, am tua thri chan cilomedr o gwmpas.
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004