No themes applied yet
Yr Angylion a'r Plâu Olaf
1Gwelais arwydd arall yn y nef, un mawr a rhyfeddol: saith angel a chanddynt saith bla—y rhai olaf, oherwydd ynddynt hwy y cwblhawyd digofaint Duw.
2Gwelais rywbeth tebyg i fôr o wydr, a thân yn gwau drwyddo, ac yn sefyll ar y môr o wydr gwelais orchfygwyr y bwystfil a'i ddelw a rhif ei enw, yn dal telynau Duw. 3Yr oeddent yn canu cân Moses, gwas Duw, a chân yr Oen:
“Mawr a rhyfeddol yw dy weithredoedd,
O Arglwydd Dduw hollalluog;
cyfiawn a gwir yw dy ffyrdd,
O Frenin y cenhedloedd.15:3 Yn ôl darlleniad arall, yr oesoedd. Yn ôl un arall, y saint.
4Pwy nid ofna, Arglwydd,
a gogoneddu dy enw?
Oherwydd tydi yn unig sydd sanctaidd.
Daw'r holl genhedloedd
ac addoli ger dy fron,
oherwydd y mae dy farnedigaethau cyfiawn wedi eu hamlygu.”
5Ar ôl hyn edrychais, ac agorwyd teml pabell y dystiolaeth yn y nef. 6Ac allan o'r deml daeth y saith angel yr oedd y saith bla ganddynt. Yr oeddent wedi eu gwisgo â lliain disgleirwych, a gwregys aur am eu dwyfron. 7Yna rhoddodd un o'r pedwar creadur byw saith ffiol aur i'r saith angel, yn llawn o lid Duw, yr hwn sy'n byw byth bythoedd. 8Llanwyd y deml â mwg gan ogoniant Duw a'i allu ef, ac ni allai neb fynd i mewn i'r deml hyd nes cwblhau saith bla y saith angel.
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004