No themes applied yet
1Ar ôl hyn clywais sŵn fel llais uchel tyrfa fawr yn y nef yn dweud:
“Halelwia!
Eiddo ein Duw ni y waredigaeth a'r gogoniant a'r gallu,
2oherwydd gwir a chyfiawn yw ei farnedigaethau ef,
gan iddo farnu'r butain fawr
a lygrodd y ddaear â'i phuteindra,
a dial gwaed ei weision
arni hi.”
3A dywedasant eilwaith:
“Halelwia!
Bydd ei mwg hi'n codi byth bythoedd.”
4Syrthiodd y pedwar henuriad ar hugain a'r pedwar creadur byw, ac addoli Duw, yr hwn sy'n eistedd ar yr orsedd, a dweud:
“Amen! Halelwia!”
Gwledd Briodas yr Oen
5A daeth llais allan o'r orsedd yn dweud:
“Molwch ein Duw ni,
chwi ei holl weision ef,
a'r rhai sy'n ei ofni ef,
yn fach a mawr.”
6A chlywais lais fel sŵn tyrfa fawr a sŵn llawer o ddyfroedd a sŵn taranau mawr yn dweud:
“Halelwia!
Oherwydd y mae'r Arglwydd ein Duw, yr Hollalluog,
wedi dechrau teyrnasu.
7Llawenhawn a gorfoleddwn,
a rhown iddo'r gogoniant,
oherwydd daeth dydd priodas yr Oen,
ac ymbaratôdd ei briodferch ef.
8Rhoddwyd iddi hi i'w wisgo
liain main disglair a glân,
oherwydd gweithredoedd cyfiawn y saint yw'r lliain main.”
9Dywedodd yr angel wrthyf, “Ysgrifenna: ‘Gwyn eu byd y rhai sydd wedi eu gwahodd i wledd briodas yr Oen.’ ” Dywedodd wrthyf hefyd, “Dyma wir eiriau Duw.” 10Syrthiais wrth ei draed i'w addoli, ond meddai wrthyf, “Paid! Cydwas â thi wyf fi, ac â'th gymrodyr sy'n glynu wrth dystiolaeth Iesu; addola Dduw. Oherwydd tystiolaeth Iesu sy'n ysbrydoli proffwydoliaeth.”
Marchog y Ceffyl Gwyn
11Gwelais y nef wedi ei hagor, ac wele geffyl gwyn; enw ei farchog oedd Ffyddlon a Gwir, oherwydd mewn cyfiawnder y mae ef yn barnu ac yn rhyfela. 12Yr oedd ei lygaid fel fflam dân, ac ar ei ben yr oedd diademau lawer. Yn ysgrifenedig arno yr oedd enw na wyddai neb ond ef ei hun. 13Yr oedd y fantell amdano wedi ei throchi mewn gwaed, ac fe'i galwyd wrth yr enw Gair Duw. 14Yn ei ganlyn ar geffylau gwynion yr oedd byddinoedd y nef, wedi eu gwisgo â lliain main disgleirwyn. 15O'i enau yr oedd cleddyf llym yn dod allan, iddo daro'r cenhedloedd ag ef; a bydd ef yn eu llywodraethu â gwialen haearn, ac yn sathru gwinwryf llid digofaint Duw, yr Hollalluog. 16Yn ysgrifenedig ar ei fantell ac ar ei glun y mae enw: “Brenin brenhinoedd, ac Arglwydd arglwyddi.”
17Yna gwelais angel yn sefyll yn yr haul, a gwaeddodd â llais uchel wrth yr holl adar oedd yn hedfan yng nghanol y nef: “Dewch, ymgasglwch i wledd fawr Duw; 18cewch fwyta cnawd brenhinoedd, cnawd cadfridogion, cnawd y cryfion, cnawd ceffylau a'u marchogion, a chnawd pawb, yn rhyddion ac yn gaethion, yn fach ac yn fawr.” 19Gwelais y bwystfil, a brenhinoedd y ddaear a'u byddinoedd, wedi ymgasglu i ryfela yn erbyn marchog y ceffyl a'i fyddin. 20Daliwyd y bwystfil, ac ynghyd ag ef y gau broffwyd oedd wedi gwneud arwyddion gwyrthiol o'i flaen i dwyllo'r rhai oedd wedi derbyn nod y bwystfil ac addoli ei ddelw ef. Bwriwyd y ddau yn fyw i'r llyn tân oedd yn llosgi â brwmstan. 21Lladdwyd y gweddill â'r cleddyf oedd yn dod allan o enau marchog y ceffyl, a chafodd yr holl adar eu gwala o'u cnawd hwy.
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004