No themes applied yet
Y Seithfed Sêl a'r Thuser Aur
1Pan agorodd yr Oen y seithfed sêl, bu distawrwydd yn y nef am tua hanner awr. 2Yna gwelais y saith angel sy'n sefyll gerbron Duw; a rhoddwyd iddynt saith utgorn.
3Daeth angel arall, a safodd wrth yr allor â thuser aur yn ei law. Rhoddwyd iddo ddigonedd o arogldarth i'w offrymu gyda gweddïau'r holl saint ar yr allor aur oedd o flaen yr orsedd. 4O law yr angel esgynnodd mwg yr arogldarth gerbron Duw gyda gweddïau'r saint. 5Cymerodd yr angel y thuser, a llanwodd hi â thân o'r allor a'i thaflu ar y ddaear; ac yna bu sŵn taranau a fflachiadau mellt a daeargryn.
Yr Utgyrn
6Paratôdd y saith angel, yr oedd y saith utgorn ganddynt, i'w seinio.
7Seiniodd y cyntaf ei utgorn. Yna daeth cenllysg a thân, yn gymysg â gwaed, ac fe'u bwriwyd ar y ddaear. Llosgwyd traean o'r ddaear, llosgwyd traean o'r coed, llosgwyd pob porfa las.
8Seiniodd yr ail angel ei utgorn. Yna taflwyd i'r môr rywbeth tebyg i fynydd mawr yn llosgi'n dân. Trodd traean o'r môr yn waed, 9a bu farw traean o greaduriaid byw y môr, a dinistriwyd traean o'r llongau.
10Seiniodd y trydydd angel ei utgorn. Yna syrthiodd o'r nef seren fawr yn llosgi fel ffagl; syrthiodd ar draean o'r afonydd ac ar ffynhonnau'r dyfroedd. 11Enw'r seren yw Wermod, a throdd traean o'r dyfroedd yn wermod, a bu farw llawer o bobl o achos chwerwi'r dyfroedd.
12Seiniodd y pedwerydd angel ei utgorn. Yna trawyd traean o'r haul a thraean o'r lleuad a thraean o'r sêr, nes tywyllu traean ohonynt, ac ni bu dim golau am draean o'r dydd, a'r un modd am draean o'r nos.
13Edrychais, a chlywais eryr yn hedfan yng nghanol y nef ac yn llefain â llais uchel, “Gwae, gwae, gwae drigolion y ddaear o achos seiniau'r utgyrn eraill y mae'r tri angel eto i'w seinio!”
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004