No themes applied yet
1Seiniodd y pumed angel ei utgorn. Yna gwelais seren wedi syrthio o'r nef i'r ddaear, a rhoddwyd iddi allwedd i bwll y dyfnder. 2Agorodd bwll y dyfnder, a chododd mwg o'r pwll fel mwg ffwrnais fawr, a thywyllwyd yr haul a'r awyr gan fwg y pwll. 3O'r mwg daeth locustiaid allan ar y ddaear, a rhoddwyd iddynt allu tebyg i'r gallu sydd gan ysgorpionau'r ddaear. 4Dywedwyd wrthynt am beidio â niweidio na phorfa'r ddaear na'r un planhigyn na choeden, ond yn unig y bobl nad oedd sêl Duw ganddynt ar eu talcennau. 5Gorchmynnwyd iddynt beidio â'u lladd, ond eu poenydio am bum mis; a'u poenedigaeth hwy oedd fel poenedigaeth ysgorpion yn brathu rhywun. 6Yn y dyddiau hynny bydd pobl yn chwilio am farwolaeth, ond ni ddônt o hyd iddi, yn chwenychu marw, ond bydd marwolaeth yn ffoi rhagddynt.
7Yn yr olwg arnynt yr oedd y locustiaid yn debyg i geffylau wedi eu paratoi i ryfel. Ar eu pennau yr oedd megis coronau euraid, ac yr oedd eu hwynebau fel wynebau dynol, 8a gwallt ganddynt fel gwallt merched, a'u dannedd fel dannedd llewod. 9Ac yr oedd eu dwyfron fel dwyfronneg o haearn, a sŵn eu hadenydd fel sŵn llawer o gerbydau rhyfel, a'u ceffylau yn carlamu i'r frwydr. 10Yr oedd ganddynt gynffonnau tebyg i ysgorpionau, a cholynnau, ac yn eu cynffonnau yr oedd eu gallu i niweidio pobl am bum mis. 11Yn frenin arnynt yr oedd angel y dyfnder; ei enw mewn Hebraeg yw Abadon, ac yn yr iaith Roeg gelwir ef Apolyon9:11 H.y., Y Dinistrydd..
12Aeth y gwae cyntaf heibio; wele, daw eto ddau wae ar ôl hyn.
13Seiniodd y chweched angel ei utgorn. Yna clywais lais o blith pedwar corn yr allor aur oedd gerbron Duw, 14yn dweud wrth y chweched angel, yr un â'r utgorn ganddo: “Gollwng yn rhydd y pedwar angel sydd wedi eu rhwymo ar lan yr afon fawr, afon Ewffrates.” 15Rhyddhawyd y pedwar angel, a oedd wedi eu dal yn barod ar gyfer yr awr a'r dydd a'r mis a'r flwyddyn, i ladd traean o'r ddynolryw. 16Yr oedd lluoedd eu gwŷr meirch yn rhifo dau gan miliwn; clywais eu rhif hwy. 17Yn fy ngweledigaeth dyma'r olwg a welais ar y ceffylau a'u marchogion: yr oedd eu dwyfronneg yn fflamgoch a glas a melyn, a'u ceffylau â phennau ganddynt fel llewod, a thân a mwg a brwmstan yn dod allan o'u safnau. 18Gan y tri phla hyn fe laddwyd traean o'r ddynolryw, hynny yw, gan y tân a'r mwg a'r brwmstan oedd yn dod allan o'u safnau. 19Yr oedd gallu'r ceffylau yn eu safnau ac yn eu cynffonnau, oherwydd yr oedd gan eu cynffonnau bennau, fel seirff, ac â'r rhain yr oeddent yn peri niwed.
20Ac am y gweddill o'r ddynolryw, nas lladdwyd gan y plâu hyn, ni bu'n edifar ganddynt am yr hyn a luniodd eu dwylo; ac ni pheidiasant ag addoli'r cythreuliaid a'r delwau aur ac arian a phres a cherrig a phren, pethau na allant na gweld na chlywed na cherdded. 21Ni bu'n edifar ganddynt chwaith am na'u llofruddiaeth na'u dewiniaeth, na'u hanfoesoldeb rhywiol na'u lladrad.
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004