No themes applied yet
Ethol Israel gan Dduw
1Ar fy ngwir yng Nghrist, heb ddim anwiredd—ac y mae fy nghydwybod, dan arweiniad yr Ysbryd Glân, yn fy ategu— 2y mae fy ngofid yn fawr, ac y mae gennyf loes ddi-baid yn fy nghalon. 3Gallwn ddymuno i mi fy hunan fod dan felltith, ac yn ysgymun oddi wrth Grist, pe bai hynny o les iddynt hwy, fy nghyd-Iddewon i, fy mhobl i o ran cig a gwaed. 4Israeliaid ydynt; eu heiddo hwy yw'r mabwysiad, y gogoniant, y cyfamodau9:4 Yn ôl darlleniad arall, cyfamod., y Gyfraith, yr addoliad a'r addewidion. 5Iddynt hwy y mae'r hynafiaid yn perthyn, ac oddi wrthynt hwy, yn ôl ei linach naturiol, y daeth y Meseia. I'r Duw sy'n llywodraethu'r cwbl boed bendith9:5 Neu, y Meseia, sy'n llywodraethu'r cwbl, yn Dduw bendigedig. am byth. Amen.
6Ond ni ellir dweud bod gair Duw wedi methu. Oherwydd nid yw pawb sydd o linach Israel yn wir Israel. 7Ac ni ellir dweud bod pawb ohonynt, am eu bod yn ddisgynyddion Abraham, yn blant gwirioneddol iddo. Yn hytrach, yng ngeiriau'r Ysgrythur, “Trwy Isaac y gelwir dy ddisgynyddion.” 8Hynny yw, nid y plant o linach naturiol Abraham, nid y rheini sy'n blant i Dduw. Yn hytrach, plant yr addewid sy'n cael eu cyfrif yn ddisgynyddion. 9Oherwydd dyma air yr addewid: “Mi ddof yn yr amser hwnnw, a chaiff Sara fab.” 10Ond y mae enghraifft arall hefyd. Beichiogodd Rebeca o gyfathrach ag un dyn, sef ein tad Isaac. 11Eto i gyd, cyn geni'r plant a chyn iddynt wneud dim, na da na drwg (fel bod bwriad Duw, sy'n gweithredu trwy etholedigaeth, yn dal mewn grym, yn dibynnu nid ar weithredoedd dynol ond ar yr hwn sy'n galw), 12fe ddywedwyd wrthi, “Bydd yr hynaf yn gwasanaethu'r ieuengaf.” 13Fel y mae'n ysgrifenedig:
“Jacob, fe'i cerais,
ond Esau, fe'i caseais.”
14Beth, ynteu, a atebwn i hyn? Bod Duw yn coleddu anghyfiawnder? Ddim ar unrhyw gyfrif! 15Y mae'n dweud wrth Moses:
“Trugarhaf wrth bwy bynnag y trugarhaf wrtho,
a thosturiaf wrth bwy bynnag y tosturiaf wrtho.”
16Felly, nid mater o ewyllys neu o ymdrech ddynol ydyw, ond o drugaredd Duw. 17Fel y dywedir wrth Pharo yn yr Ysgrythur, “Fy union amcan wrth dy godi di oedd dangos fy ngallu ynot ti, a chyhoeddi fy enw trwy'r holl ddaear.” 18Gwelir, felly, fod Duw yn trugarhau wrth unrhyw un a fyn, a'i fod yn gwneud unrhyw un a fyn yn wargaled.
Digofaint Duw, a'i Drugaredd
19Ond fe ddywedi wrthyf, “Os felly, pam y mae Duw yn dal i feio pobl? Pwy a all wrthsefyll ei ewyllys?” 20Ie, ond pwy wyt ti, feidrolyn, i ateb Duw yn ôl? A yw hi'n debyg y dywed yr hyn a luniwyd wrth yr un a'i lluniodd, “Pam y lluniaist fi fel hyn?” 21Oni all y crochenydd lunio beth bynnag a fynno o'r clai? Onid oes hawl ganddo i wneud, o'r un telpyn, un llestr i gael parch a'r llall amarch? 22Ond beth os yw Duw, yn ei awydd i ddangos ei ddigofaint ac i amlygu ei nerth, wedi dioddef â hir amynedd y llestri hynny sy'n wrthrychau digofaint ac yn barod i'w dinistrio? 23Ei amcan yn hyn fyddai dwyn i'r golau y cyfoeth o ogoniant oedd ganddo ar gyfer y llestri sy'n wrthrychau trugaredd, y rheini yr oedd ef wedi eu paratoi ymlaen llaw i ogoniant. 24A ni yw'r rhain, ni sydd wedi ein galw, nid yn unig o blith yr Iddewon, ond hefyd o blith y Cenhedloedd. 25Fel y mae'n dweud yn llyfr Hosea hefyd:
“Galwaf yn bobl i mi rai nad ydynt yn bobl i mi,
a galwaf yn anwylyd un nad yw'n anwylyd;
26ac yn y lle y dywedwyd wrthynt, ‘Nid fy mhobl ydych’,
yno, fe'u gelwir yn blant y Duw byw.”
27Ac y mae Eseia yn datgan am Israel: “Er i bobl Israel fod mor niferus â thywod y môr, gweddill yn unig fydd yn cael eu hachub; 28oherwydd llwyr a llym fydd dedfryd yr Arglwydd ar y ddaear.” 29A'r un yw neges gair blaenorol Eseia:
“Oni bai i Arglwydd y Lluoedd adael i ni ddisgynyddion,
byddem fel Sodom,
ac yn debyg i Gomorra.”
Israel a'r Efengyl
30Beth, ynteu, a ddywedwn? Hyn, fod Cenhedloedd, nad oeddent â'u bryd ar gyfiawnder, wedi dod o hyd iddo, sef y cyfiawnder sydd trwy ffydd; 31ond bod Israel, er iddi fod â'i bryd ar gyfraith a fyddai'n dod â chyfiawnder, heb ei gael. 32Am ba reswm? Am iddynt weithredu, nid trwy ffydd ond ar y dybiaeth mai cadw gofynion cyfraith oedd y ffordd. Syrthiasant ar y “maen tramgwydd” 33y mae'r Ysgrythur yn sôn amdano:
“Wele, yr wyf yn gosod yn Seion faen tramgwydd, a chraig rhwystr,
a'r rhai sy'n credu ynddo, ni chywilyddir mohonynt.”
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004