No themes applied yet
Ruth yn Cael Gŵr
1Yna dywedodd ei mam-yng-nghyfraith Naomi wrthi, “Fy merch, oni ddylwn i chwilio am gartref iti, er dy les? 2Yn awr, onid perthynas i ni yw Boas, y buost gyda'i lancesau? 3Edrych, y mae ef yn mynd i nithio haidd yn y llawr dyrnu heno. Wedi iti ymolchi ac ymbincio a rhoi dy wisg orau amdanat, dos at y llawr dyrnu, ond paid â gadael iddo d'adnabod nes iddo orffen bwyta ac yfed. 4Pan â i orwedd, sylwa ymhle y mae'n cysgu, yna dos a chodi'r dillad o gwmpas ei draed a gorwedd i lawr. Wedyn fe ddywed ef wrthyt beth i'w wneud.” 5Cytunodd hithau i wneud y cwbl a ddywedodd Naomi wrthi. 6Aeth at y llawr dyrnu, a gwneud yn union fel yr oedd ei mam-yng-nghyfraith wedi gorchymyn iddi. 7Wedi i Boas fwyta ac yfed, yr oedd yn teimlo'n hapus, ac aeth i gysgu yng nghwr y pentwr ŷd. Daeth hithau'n ddistaw a chodi'r dillad o gwmpas ei draed, a gorwedd i lawr. 8Tua hanner nos cyffrôdd y dyn a throi, ac yno'n gorwedd wrth ei draed yr oedd merch. 9“Pwy wyt ti?” gofynnodd. Atebodd hithau, “Dy forwyn Ruth; taena gwr dy fantell dros dy forwyn, oherwydd yr wyt ti'n berthynas agos.” 10Yna dywedodd wrthi, “Bendith yr ARGLWYDD arnat, fy merch; y mae'r teyrngarwch olaf hwn gennyt yn rhagori ar y cyntaf, am iti beidio â mynd ar ôl y dynion ifainc, boent dlawd neu gyfoethog. 11Yn awr, fy merch, paid ag ofni; fe wnaf iti bopeth yr wyt yn ei ddweud, oherwydd y mae pawb o'm cymdogion yn gwybod dy fod yn ferch deilwng. 12Yn awr, y mae'n hollol wir fy mod yn berthynas agos, ond y mae un arall sy'n nes na mi. 13Aros yma heno; ac yfory, os bydd ef am weithredu fel perthynas, popeth yn iawn; gwnaed hynny. Ond os nad yw'n barod i wneud hynny, yna fe wnaf fi, cyn wired â bod yr ARGLWYDD yn fyw. Cwsg tan y bore.” 14Cysgodd hithau wrth ei draed tan y bore; yna fe gododd, cyn y gallai neb adnabod ei gilydd. Yr oedd ef wedi gorchymyn nad oedd neb i wybod bod y ferch wedi dod i'r llawr dyrnu. 15Ac meddai wrthi, “Estyn y fantell sydd amdanat, a dal hi.” A thra oedd hi yn ei dal, mesurodd yntau iddi chwe mesur o haidd a'i osod ar ei hysgwydd, ac aeth hithau i'r dref. 16Wedi iddi gyrraedd gofynnodd ei mam-yng-nghyfraith, “Sut y bu hi gyda thi, fy merch?” Adroddodd hithau wrthi'r cwbl a wnaeth y dyn iddi. 17Dywedodd, “Rhoddodd imi'r chwe mesur hyn o haidd oherwydd, meddai wrthyf, ‘Ni chei fynd yn waglaw at dy fam-yng-nghyfraith’.” 18Yna dywedodd Naomi, “Aros, fy merch, nes y cei wybod sut y try pethau; oherwydd ni fydd y dyn yna'n gorffwys cyn gorffen y mater heddiw.”
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004