No themes applied yet
1Mor brydferth yw dy draed mewn sandalau. O ferch y tywysog!
Y mae dy gluniau lluniaidd fel gemau
o waith crefftwr medrus.
2Y mae dy fogail fel ffiol gron
nad yw byth yn brin o win cymysg;
y mae dy fol fel pentwr o wenith
wedi ei amgylchynu gan lilïau.
3Y mae dy ddwy fron fel dwy elain,
gefeilliaid ewig.
4Y mae dy wddf fel tŵr ifori,
a'th lygaid fel y llynnoedd yn Hesbon,
ger mynedfa Bath-rabbim;
y mae dy drwyn fel tŵr Lebanon,
sy'n edrych i gyfeiriad Damascus.
5Y mae dy ben yn ymddangos fel Carmel
a gwallt dy ben fel porffor,
a brenin wedi ei garcharu yn y plethi.
6Mor brydferth, mor hardd wyt,
fy anwylyd, y fwyaf dymunol.
7Y mae dy gorff fel palmwydden,
a'th fronnau fel clwstwr o'i ffrwythau.
8Dywedais, “Dringaf y balmwydden,
a gafael yn ei brigau.”
Bydded dy fronnau fel clwstwr o rawnwin,
ac arogl dy anadl fel afalau,
9a'th wefusau fel y gwin gorau
yn llifo'n esmwyth mewn cariad,
ac yn llithro rhwng gwefusau a dannedd7:9 Felly Fersiynau. Hebraeg, gwefusau cysgwyr..
10Yr wyf fi'n eiddo i'm cariad,
ac yntau'n fy chwennych.
11Tyrd, fy nghariad, gad inni fynd allan i'r maes,
a threulio'r nos ymysg y llwyni henna.
12Gad inni fynd yn fore i'r gwinllannoedd,
i edrych a yw'r winwydden yn blaguro,
a'i blodau yn agor,
a'r pomgranadau yn blodeuo;
yno fe ddangosaf fy nghariad tuag atat.
13Y mae'r mandragorau yn gwasgar eu harogl;
o gwmpas ein drws ceir yr holl ffrwythau gorau,
ffrwythau newydd a hen
a gedwais i ti, fy nghariad.
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004