No themes applied yet
Cyfarch
1Paul, gwas Duw ac apostol Iesu Grist, sy'n ysgrifennu, yn unol â ffydd etholedigion Duw, a gwybodaeth o'r gwirionedd sy'n gyson â'n crefydd ni, 2yn seiliedig yn y gobaith am fywyd tragwyddol. Dyma'r bywyd a addawodd y digelwyddog Dduw cyn dechrau'r oesoedd, 3ac ef hefyd yn ei amser ei hun a ddatguddiodd ei air yn y neges a bregethir. Ymddiriedwyd y neges hon i mi ar orchymyn Duw, ein Gwaredwr. 4Yr wyf yn cyfarch Titus, fy mhlentyn diledryw yn y ffydd sy'n gyffredin inni. Gras a thangnefedd i ti oddi wrth Dduw y Tad a Christ Iesu ein Gwaredwr.
Gwaith Titus yn Creta
5Fy mwriad wrth dy adael ar ôl yn Creta oedd iti gael trefn ar y pethau oedd yn aros heb eu gwneud, a sefydlu henuriaid ym mhob tref yn ôl fy nghyfarwyddyd iti: 6rhaid i henuriad fod yn ddi-fai, yn ŵr i un wraig, a'i blant yn gredinwyr, heb fod wedi eu cyhuddo o afradlonedd nac yn afreolus. 7Oherwydd rhaid i arolygydd1:7 Neu, esgob. fod yn ddi-fai, ac yntau yn oruchwyliwr yng ngwasanaeth Duw. Rhaid iddo beidio â bod yn drahaus, nac yn fyr ei dymer, nac yn rhy hoff o win, nac yn rhy barod i daro, nac yn un sy'n chwennych elw anonest, 8ond yn lletygar, ac yn caru daioni, yn ddisgybledig, yn gyfiawn, yn sanctaidd, yn feistr arno'i hun. 9Dylai ddal ei afael yn dynn yn y gair sydd i'w gredu ac sy'n gyson â'r hyn a ddysgir, er mwyn iddo fedru annog eraill â'i athrawiaeth iach, a gwrthbrofi cyfeiliornad ei wrthwynebwyr.
10Oherwydd y mae llawer, ac yn arbennig y credinwyr Iddewig, yn afreolus, ac yn twyllo dynion â'u dadleuon diffaith; 11ac fe ddylid rhoi taw arnynt. Pobl ydynt sydd yn tanseilio teuluoedd cyfan drwy ddysgu iddynt bethau na ddylent eu dysgu, a hynny er mwyn elw anonest. 12Dywedodd un ohonynt, un o'u proffwydi hwy eu hunain:
“Celwyddgwn fu'r Cretiaid erioed, anifeiliaid anwar, bolrwth a diog.”
13Y mae'r dystiolaeth hon yn wir. Am hynny, cerydda hwy'n ddidostur, er mwyn eu cael yn iach yn y ffydd 14yn lle bod â'u bryd ar chwedlau Iddewig a gorchmynion pobl sy'n troi cefn ar y gwirionedd. 15I'r pur, y mae pob peth yn bur; ond i'r rhai llygredig a di-gred, nid oes dim yn bur; y mae eu deall a'u cydwybod wedi eu llygru. 16Y maent yn proffesu eu bod yn adnabod Duw, ond ei wadu y maent â'u gweithredoedd. Y maent yn ffiaidd ac yn anufudd, ac yn anghymwys i unrhyw weithred dda.
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004