No themes applied yet
Yr ARGLWYDD yn Addo Gwaredigaeth
1Gofynnwch i'r ARGLWYDD am law
yn nhymor glaw'r gwanwyn;
yr ARGLWYDD sy'n gwneud y cymylau trymion
a'r cawodydd glaw,
ac yn rhoi gwellt y maes i bawb.
2Oherwydd y mae'r teraffim yn llefaru oferedd,
a gweledigaeth y dewiniaid yn gelwydd;
cyhoeddant freuddwydion twyllodrus,
a chynnig cysur gwag.
Am hynny y mae'r bobl yn crwydro fel defaid,
yn druenus am eu bod heb fugail.
3“Enynnodd fy llid yn erbyn y bugeiliaid,
a dygaf gosb ar arweinwyr y praidd;
oherwydd gofala ARGLWYDD y Lluoedd am ei braidd, tŷ Jwda,
a'u gwneud yn farch-rhyfel balch.
4Ohonynt hwy y daw'r conglfaen a hoelen y babell;
ohonynt hwy y daw'r bwa rhyfel;
ohonynt hwy y daw pob cadfridog.
5Byddant gyda'i gilydd fel rhyfelwyr
yn sathru'r heolydd lleidiog yn y frwydr;
brwydrant am fod yr ARGLWYDD gyda hwy,
a pharant gywilydd i farchogion.
6Gwnaf dŷ Jwda yn nerthol,
a gwaredaf dŷ Joseff;
dychwelaf hwy am fy mod yn tosturio wrthynt,
a byddant fel pe bawn heb erioed eu gwrthod;
oherwydd myfi yw'r ARGLWYDD eu Duw, ac fe'u hatebaf.
7Yna bydd Effraim fel rhyfelwr,
a'i galon yn llawenhau fel gan win,
a bydd ei blant yn gweld ac yn llawenychu,
a'u calonnau'n gorfoleddu yn yr ARGLWYDD.
8Chwibanaf arnynt i'w casglu ynghyd, oherwydd gwaredaf hwy,
a byddant cyn amled ag y buont gynt.
9Er imi eu gwasgaru ymysg cenhedloedd,
eto mewn gwledydd pell fe'm cofiant,
a magu plant, a dychwelyd.
10Dygaf hwy'n ôl o wlad yr Aifft,
a chasglaf hwy o Asyria;
dygaf hwy i mewn i dir Gilead a Lebanon
hyd nes y byddant heb le.
11Ânt trwy fôr yr argyfwng;
trewir tonnau'r môr,
a sychir holl ddyfnderoedd y Neil.
Darostyngir balchder Asyria,
a throir ymaith deyrnwialen yr Aifft.
12Gwnaf hwy'n nerthol yn yr ARGLWYDD,
ac ymdeithiant yn ei enw,” medd yr ARGLWYDD.
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004